1
Josua 10:13
beibl.net 2015, 2024
bnet
Felly dyma’r haul yn sefyll a’r lleuad yn aros yn ei unfan nes i Israel ddial ar eu gelynion. (Mae’r gerdd yma i’w chael yn Sgrôl Iashar .) Roedd yr haul wedi sefyll yn ei unfan drwy’r dydd, heb fachlud.
Compare
Explore Josua 10:13
2
Josua 10:12
Ar y diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD i Israel orchfygu’r Amoriaid, roedd Josua wedi gweddïo o flaen pobl Israel i gyd: “Haul, stopia yn yr awyr uwchben Gibeon. Ti leuad, saf yn llonydd uwch Dyffryn Aialon.”
Explore Josua 10:12
3
Josua 10:14
Does dim diwrnod tebyg erioed wedi bod, cyn hynny na wedyn! Diwrnod pan wnaeth yr ARGLWYDD wrando ar orchymyn dyn. Oedd, roedd yr ARGLWYDD yn ymladd dros bobl Israel!
Explore Josua 10:14
4
Josua 10:8
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Dw i’n mynd i roi buddugoliaeth i ti. Fydd neb yn gallu dy rwystro di.”
Explore Josua 10:8
5
Josua 10:25
Yna meddai Josua, “Peidiwch bod ag ofn a phanicio! Byddwch yn gryf a dewr! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i’ch gelynion chi i gyd.”
Explore Josua 10:25
მთავარი
ბიბლია
გეგმები
ვიდეოები