1
Deuteronomium 28:1
beibl.net 2015, 2024
bnet
“Os byddwch chi wir yn ufudd i’r ARGLWYDD eich Duw, ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi’n cadw’r gorchmynion dw i’n eu rhoi i chi heddiw, bydd e’n eich gwneud chi’n fwy enwog na’r cenhedloedd eraill i gyd.
Compare
Explore Deuteronomium 28:1
2
Deuteronomium 28:2
Byddwch yn derbyn llond gwlad o fendithion os byddwch chi’n ufudd iddo
Explore Deuteronomium 28:2
3
Deuteronomium 28:13
Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi arwain, ac nid dilyn. Byddwch chi ar y top, dim ar y gwaelod – dim ond i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw’i orchmynion e, y rhai dw i’n eu rhoi i chi heddiw.
Explore Deuteronomium 28:13
4
Deuteronomium 28:12
Bydd yr ARGLWYDD yn agor ei stordai yn yr awyr, ac yn rhoi glaw yn ei dymor i’r tir. Bydd yn bendithio popeth wnewch chi. Bydd gynnoch chi ddigon i’w fenthyg i genhedloedd eraill, ond fydd dim angen benthyg arnoch chi o gwbl.
Explore Deuteronomium 28:12
5
Deuteronomium 28:7
Bydd yr ARGLWYDD yn achosi i’r gelynion sy’n ymosod arnoch chi gael eu taro i lawr o flaen eich llygaid! Byddan nhw’n ymosod arnoch chi o un cyfeiriad, ond yn dianc i bob cyfeiriad!
Explore Deuteronomium 28:7
6
Deuteronomium 28:8
Bydd yr ARGLWYDD yn llenwi’ch ysguboriau chi, ac yn bendithio popeth wnewch chi – ydy, mae e’n mynd i’ch bendithio chi yn y wlad mae’n ei rhoi i chi.
Explore Deuteronomium 28:8
7
Deuteronomium 28:6
Cewch eich bendithio ble bynnag ewch chi.
Explore Deuteronomium 28:6
8
Deuteronomium 28:3
Cewch eich bendithio ble bynnag dych chi’n gweithio.
Explore Deuteronomium 28:3
9
Deuteronomium 28:4
Bydd bendith ar eich plant, ar gynnyrch eich tir, ac ar eich anifeiliaid i gyd – bydd eich gwartheg, defaid a geifr yn cael lot o rai bach.
Explore Deuteronomium 28:4
10
Deuteronomium 28:9
Bydd yr ARGLWYDD yn cadarnhau mai chi ydy’r bobl mae e wedi’u cysegru iddo’i hun, fel gwnaeth e addo, os gwnewch chi wneud beth mae e’n ddweud a byw fel mae e eisiau.
Explore Deuteronomium 28:9
11
Deuteronomium 28:5
Bydd digon o rawn yn eich basged, a digon o fwyd ar eich bwrdd.
Explore Deuteronomium 28:5
12
Deuteronomium 28:11
Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud i chi lwyddo bob ffordd – cewch lot o blant, bydd eich anifeiliaid yn cael lot o rai bach, a bydd eich cnydau’n llwyddo yn y wlad wnaeth e addo i’ch hynafiaid y byddai’n ei rhoi i chi.
Explore Deuteronomium 28:11
13
Deuteronomium 28:10
Wedyn bydd pawb drwy’r byd i gyd yn gwybod mai chi ydy pobl yr ARGLWYDD, a byddan nhw’n eich parchu chi.
Explore Deuteronomium 28:10
14
Deuteronomium 28:14
Ond rhaid i chi beidio crwydro o gwbl oddi wrth y gorchmynion dw i’n eu rhoi i chi, a pheidio mynd i addoli duwiau eraill.
Explore Deuteronomium 28:14
15
Deuteronomium 28:15
“Ond os byddwch chi’n gwrthod gwrando ar yr ARGLWYDD eich Duw, heb wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw’i orchmynion a’i ganllawiau e, bydd llond gwlad o felltithion yn dod arnoch chi!
Explore Deuteronomium 28:15
მთავარი
ბიბლია
გეგმები
ვიდეოები