Logo YouVersion
Icona Cerca

Galarnad Ieremia 1

1
PENNOD I.
1Podd yr eistedd wrthi ei hun
Y ddinas oedd lïosog o bobl!#1:1 Nid gofyniad yw yr ymadrodd, ond iaith syndod. Rhyfeddai y prophwyd wrth y fath olwg — y ddinas boblogaidd yn ddibobl.
Megys gweddw y mae hi,
Oedd lïosog ymysg cenedloedd!
Tywysoges ymysg talaethau,
Tan deyrnged y mae!
2Gan wylo wyla ar hyd y nos#1:2 Nid digon oedd y dydd i wylo, ond yn lle gorphwys a chysgu, wylai ar hyd y nos. Dynoda hyn wylofain pârhaus.
A’i deigyr ar ei grudd,
Heb iddi gysurydd
O’i holl gariadau!
Ei holl gyfeillion, siomasant hi;
Aethant iddi yn elynion.#1:2 “Cariadau” oeddent y gau-dduwiau a addolid yn Ierusalem; a’r “cyfeillion” oeddent yr Assyriaid a’r Aiphtiaid, y rhai yr ymddibynid arnynt a, gymhorth yn erbyn y Caldeaid.
3Mudwyd Iowda o herwydd gormes,
Ac o herwydd amledd caethwasanaeth;#1:3 Gormesu a chadw caethweision oeddent rai o’r pechodau y bygythid y wlad am danynt & chaethgludiad. Gwel Ier. 34.
Hi a drig ymysg y cenedloedd,
Heb gael gorphwysfa:
Ei holl erlidwyr, goddiweddasant hi
Rhwng cyfyngleoedd.#1:3 Neu, “cul-leoedd.” Y cyfeiriad sydd at yr arfer o hela anifeiliaid gwylltion trwy eu gyru i gulfanau er mwyn eu dala. Gwedi son am fudiad Iowda, cyfeirir at yr hyn a wnaed tuag at ei mudo; goddiweddasai ei herlidwyr hi megys rhwng cul-leoedd.
4Ffyrdd Sïon ydynt yn galaru
Am na ddaw neb i’r uchel-wyl;
Ei holl byrth ydynt anghyfannedd,
Ei hoffeiriaid yn ocheneidio,
Ei morwynion yn drallodedig,
A hithau, chwerwder sydd iddi.
5Aeth ei gormeswyr yn ben,
Ei gelynion, ffynu a wnaethant;
O herwydd Iehofa wnaeth ei chystuddio
Am amledd ei throseddau:
Ei phlant, aethant i gaethiwed
O flaen y gormesydd;
6Ac ymadawodd â merch Sïon
Ei holl brydferthwch;
Daeth ei thywysogion fel hyddod,
Na chawsant borfa;#1:6 Mae’r hydd yn greadur bywiog, cyflym; ond coll ei fywiogrwydd pan byddo bob borfa: dynodir yma wendid a llesgedd y tywysogion, goreuon y wlad.
A cherddasant heb nerth
O flaen yr ymlidiwr.
7Cofiodd Ierusalem
Yn nyddiau ei thrallod a’i hiseliadau,#1:7 Neu, “ei darostyngiadau.” Daw o air a arwydda, disgyn, dyfod i lawr — disgyniadau. Arferir ef yn yr un ystyr yn pen. 3:19.
Ei holl bethau dymunol,
Y rhai oeddent er dyddiau gynt:
Pan syrthiodd ei phobl i law y gorthrymydd,
Ac heb gynnorthwywr iddi,
Edrychodd arni orthrymwyr
A chwarddasant am ei chaethiwed.#1:7 Nid arferir y gair “Sabboth,” ac nid yw hyny yn briodol yma. Deillia, medd rhai, o air a arwydda, peidio, dyfod i’r dim — dyspeidiad, hyny yw, o ran eu hanfodiad fel cenedl. Yn ol eraill, daw o air a ddynoda, caethiwo, neu ddwyn i gaethiwed; a dyma yr ystyr fwyaf cymhwys yma.
8Gan bechu pechodd Ierusalem,
Am hyny aeth ar ddisperod; #1:8 Neu, “ar grwydr;” neu, “Am hyny daeth yn grwydredig,” neu, “yn ffoadures.”
Ei holl anrhydeddwyr, diystyrasant hi,
O herwydd gwelsant ei noethni:
Ië, hi a ocheneidiodd,
Ac a drodd yn ei hol.#1:8 Troi yn ol, sydd yn arwyddo cywilydd, heb allu wynebu eraill.
9Ei haflendid oedd yn ei godre,#1:9 Felly yn amlwg i bawb: pechodau Ierusalem oeddent yn eglur; ac ni chywilyddiai o’u herwydd nos i farn ei goddiweddu.
Ni chofiodd ei diwedd;#1:9 Sef y caethiwed a fygythid iddi gan y prophwydi.
A disgynodd yn dra rhyfedd,#1:9 Yn llythyrenol, “A disgynodd — rhyfeddodau!” Parodd ei disgyniad amledd o ryfeddodau, syndod ar syndod, ac eto nid oedd gysurydd iddi.
Heb neb yn gysurydd iddi:
Gwel, Iehofa, fy nhrallod,
Canys ymfawrygodd y gelyn.
10Ei law a ymledodd y gorthrymydd
Dros ei holl hethau dymunol:
Canys gwelodd genedloedd,
Daethant i’w sancteiddfan,
Y rhai y gorchymynaist am danynt,
Na ddelent i’th gynnulleidfa.
11Ei holl bobl oeddent yn ocheneidio,
Yn ceisio bara;
Rhoddasant eu pethau dymunol am fwyd,
Er dadebru yr enaid:
Gwel, Iehofa, ac edrych;
Canys aethum yn ddirmygedig.
12Ai dim yw i chwi oll sy yn tramwy y ffordd?
Edrychwch a gwelwch,
A oes tristwch fel fy nhristwch,
Yr hwn a barwyd i mi?
Canys cystuddiodd fi Iehofa,
Yn nydd angerdd ei ddigofaint.
13O’r uchelder danfonodd dân i’m hesgyrn,
A threchodd arnynt;
Taenodd rwyd i’m traed,
Trodd fi yn fy ol;
Gwnaeth fi yn anrhaith,
Yr holl ddydd yn fethedig.#1:13 Neu, “yn llesg.”
14Gwyliodd ar fy nhroseddau,#1:14 Felly y cyfieithiadau cynnaraf. Gwyliodd ar droseddau, er mwyn eu cosbi. Gwel Dan. 9:14. Dywed i Dduw eu plethu megys â’i law, er dangos nad anghofiai un o honynt, gau eu bod wedi eu cysylltu ynghyd. Rhoddodd hefyd “iau” caethiwed megys ar wddf y bobl.
Gan ei law y plethwyd hwynt;
Ei iau sydd ar fy ngwddf,
Parodd fy nerth syrthio;
Rhoddodd Iehofa fi yn nwylaw gorthrymydd, #1:14 Mae terfyn y gair “dwylaw” yn dangos bod gair wedi ei adael allan.
Nis gallaf gyfodi.
15Sathrodd Iehofa fy holl ddewrion
Yn fy nghanol;#1:15 Sef pan oedd tan warchae.
Galwodd i’m herbyn gynnulleidfa
I ddryllio fy rhai dewisol;
Y gwinwryf a sathrodd Iehofa,
O ran y forwyn, merch Iowda.
16Am y pethau hyn yr wyf yn wylo;
Fy llygad! fy llygad! dwg i lawr ddwfr,
O herwydd pellhâodd oddiwrthyf ddyddanwr,
A ddadebrai fy enaid;
Mae fy meibion yn anrheithiedig,
Canys gorchfygu a wnaeth y gelyn.
17Ymledodd Sïon ei dwylaw,
Heb neb yn ddyddanwr iddi:
Gorchymynodd Iehofa am Iacob,
“Y rhai o’i amgylch, byddant ei orthrymwyr;”
Daeth Ierusalem;
Yn ddisperod yn eu canol.#1:17 Neu, “yn grwydredig (neu, yn alltud) yn eu canol.” Yr un gair yw ag a gawn yn adnod 8.
18Cyfiawn yw Iehofa,
Canys ei enau a wrthwynebais;#1:18 Genau yma sydd yn lle yr hyn a ddaw o’r genau, sef gair neu orchymyn Duw.
Clywch, atolwg, bobloedd oll,
A gwelwch fy nhristwch;
Fy morwynion a’m meibion,
Aethant i gaethiwed.
19Gelwais ar fy nghariadau,
Hwy a’m twyllasant;
Fy offeiriaid a’m henafgwŷr,
Yn y ddinas y trengasant,
Tra y ceisient fwyd iddynt eu hunain,
Er dadebru eu henaid.
20Gwel, Iehofa, canys cyfyng yw arnaf,
Fy ymysgaroedd a gynhyrfwyd;
Dadymchwelwyd fy nghalon yno,
Canys gan wrthryfelu y gwrthryfelais:
Oddiallan amddifadodd y cleddyf,
Fel yr angeu yn y tŷ.#1:20 Wrth “angeu” y meddylir y newyn: lladdai y newyn neu y pla yn y tai, a’r cleddyf y rhai a elent allan.
21Clywsant fy mod yn ocheneidio,
Heb neb yn ddyddanwr i mi;
Fy holl elynion, clywsant am fy nrygfyd,
Gorfoleddasant am i ti wneyd hyn,
A dwyn y dydd a gyhoeddais;#1:21 Sef dydd y gaethglud, a gyhoeddasai Duw yn aml trwy ei brophwydi.
Ond byddant hwy fel finnau.
22Deued eu holl ddrwg ger dy fron;
A gwna iddynt hwy,
Yn ol yr hyn a wnaethost i mi,
Am fy holl droseddau;
Oblegid aml yw fy ocheneidiau
A’m calon sydd fethedig.

Attualmente Selezionati:

Galarnad Ieremia 1: CJO

Evidenziazioni

Condividi

Copia

None

Vuoi avere le tue evidenziazioni salvate su tutti i tuoi dispositivi?Iscriviti o accedi

YouVersion utilizza i cookie per personalizzare la tua esperienza. Utilizzando il nostro sito Web, accetti il nostro utilizzo dei cookie come descritto nella nostra Privacy Policy