1
Mathew 18:20
Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 gyda chroesgyfeiriadau
BWM1955C
Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
Lee anya n'etiti ihe abụọ
Nyochaa Mathew 18:20
2
Mathew 18:19
Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau ohonoch ar y ddaear am ddim oll, beth bynnag a’r a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Nyochaa Mathew 18:19
3
Mathew 18:2-3
A’r Iesu a alwodd ato fachgennyn, ac a’i gosododd yn eu canol hwynt; Ac a ddywedodd, Yn wir y dywedaf i chwi, Oddieithr eich troi chwi, a’ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.
Nyochaa Mathew 18:2-3
4
Mathew 18:4
Pwy bynnag gan hynny a’i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.
Nyochaa Mathew 18:4
5
Mathew 18:5
A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a’m derbyn i.
Nyochaa Mathew 18:5
6
Mathew 18:18
Yn wir meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef.
Nyochaa Mathew 18:18
7
Mathew 18:35
Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob un i’w frawd eu camweddau.
Nyochaa Mathew 18:35
8
Mathew 18:6
A phwy bynnag a rwystro un o’r rhai bychain hyn a gredant ynof fi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a’i foddi yn eigion y môr.
Nyochaa Mathew 18:6
9
Mathew 18:12
Beth dybygwch chwi? O bydd gan ddyn gant o ddefaid, a myned o un ohonynt ar ddisberod; oni ad efe y namyn un cant, a myned i’r mynyddoedd, a cheisio’r hon a aeth ar ddisberod?
Nyochaa Mathew 18:12