1
Iago 2:17
beibl.net 2015, 2024
bnet
Mae ‘credu’ ar ei ben ei hun yn union yr un fath. Os ydy’r ‘credu’ ddim yn arwain at wneud rhywbeth, mae’n farw gelain.
2
Iago 2:26
Yn union fel mae corff yn farw os does dim anadl ynddo, mae credu heb weithredu yn farw!
3
Iago 2:14
Frodyr a chwiorydd, beth ydy’r pwynt i rywun honni ei fod yn credu, ac wedyn gwneud dim byd o ganlyniad i hynny? Ai dyna’r math o ‘gredu’ sy’n achub rhywun?
4
Iago 2:19
Rwyt ti’n credu mai un Duw sy’n bod, wyt ti? Wel da iawn ti! Ond cofia fod y cythreuliaid yn credu hynny hefyd, ac yn crynu mewn ofn!
5
Iago 2:18
Ond wedyn mae rhywun yn dadlau, “Mae gan rai pobl ffydd ac mae eraill yn gwneud daioni.” A dw i’n ateb, “Wyt ti’n gallu dangos dy ffydd i mi heb wneud dim? Dw i’n dangos fy mod i’n credu drwy beth dw i’n ei wneud!”
6
Iago 2:13
Fydd dim trugaredd i chi os ydych chi heb ddangos trugaredd at eraill, ond mae dangos trugaredd yn trechu barn.
7
Iago 2:24
Felly dylet ti weld mai beth mae rhywun yn ei wneud sy’n dangos ei fod yn iawn gyda Duw, nid dim ond bod rhywun yn dweud ei fod yn credu.
8
Iago 2:22
Roedd ei ffydd i’w weld drwy beth wnaeth e. Roedd y gweithredu yn dangos ei fod yn credu go iawn, dim rhyw hanner credu.