1
Marc 5:34
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
FfN
Dywedodd yntau wrthi, “Fy merch, mae dy ffydd wedi dy iacháu. Dos mewn heddwch, yn rhydd am byth o’th anhwylder.”
Lee anya n'etiti ihe abụọ
Nyochaa Marc 5:34
2
Marc 5:25-26
Roedd gwraig yn eu plith a oedd wedi dioddef ers deuddeng mlynedd gan waedlif. Roedd hi wedi dioddef yn enbyd dan law nifer mawr o feddygon, a gwario ei harian yn llwyr, heb wella dim, ond yn hytrach mynd yn waeth o hyd.
Nyochaa Marc 5:25-26
3
Marc 5:29
A’r eiliad honno peidiodd y gwaedlif, ac fe wyddai hithau’n iawn ynddi ei hun iddi gael iachâd o’i hanhwylder.
Nyochaa Marc 5:29
4
Marc 5:41
Gafaelodd yn ei llaw a dywedodd wrthi, “Talitha Cwmi,” ac ystyr hynny yw, “Ferch fach, rwy’n dweud wrthyt, cod.”
Nyochaa Marc 5:41
5
Marc 5:35-36
A thra roedd yn siarad daeth rhywrai o dŷ llywydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw. I beth bellach y blini di’r Athro?” Ni roddodd yr Iesu ddim sylw i’r neges. Dywedodd wrth lywydd y synagog, “Paid ag ofni; yn unig cred.”
Nyochaa Marc 5:35-36
6
Marc 5:8-9
(oherwydd roedd yr Iesu wedi dweud wrtho, “Ti ysbryd aflan, tyrd allan o’r dyn”). A gofynnodd iddo, “Beth yw d’enw?” Atebodd yntau, “Lleng yw f’enw, oherwydd y mae llawer ohonom.”
Nyochaa Marc 5:8-9