1
Salmau 6:8-10
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
SCN
Ewch ymaith, chwi rai drwg, Sy’n fy mhoenydio, Oherwydd clywodd Duw Fi’n beichio wylo. Gwrandawodd arnaf fi, Derbyniodd ing fy nghri. Fe ddrysa’ch cynllwyn chwi, A’ch cywilyddio.
Lee anya n'etiti ihe abụọ
Nyochaa Salmau 6:8-10
2
Salmau 6:1-3
O Arglwydd, yn dy ddig, Paid â’m ceryddu, Ond trugarha, fy Nuw, Cans rwy’n clafychu. O tyred i’m hiacháu; Brawychwyd f’esgyrn brau; Arswydaf a thristáu. Pa hyd y pery?
Nyochaa Salmau 6:1-3
3
4
Salmau 6:4-7
O Arglwydd, gwared fi, Yn d’ofal ffyddlon, Cans pwy all yn y bedd Dy foli o galon? Fy ngwely’n foddfa sydd Gan ddagrau nos a dydd, A phŵl fy llygaid prudd Gan fy ngelynion.
Nyochaa Salmau 6:4-7
Ebe Mmepe Nke Mbụ Nke Ngwá
Akwụkwọ Nsọ
Atụmatụ Ihe Ogụgụ Gasị
Vidiyo Gasị