Salmydd 32
32
SALM XXXII.
12.10. Worship.
1Mor ddedwydd yw’r hwn y maddeuwyd ei drosedd,
Cuddiwyd ei bechod o olwg y Nef,
2I’r hwn nid yw’r Arglwydd yn cyfrif anwiredd,
Didwyll agored ei ysbryd yw ef.
3Tra tewais, heneiddiodd fy esgyrn gan ruad
Natur wasgedig, ddiobaith o glaf;
4Dy law i’m ceryddu drymhaodd yn wastad,
* Pallodd fy irder gan sychder yr hâf.
5Addefais fy mhechod, ni chuddiais f’anwiredd,
Tithau faddeuaist fy nghamwedd yn llwyr;
* 6Gweddied pob duwiol am hyn ar dy Fawredd,
Ceisied dy ffafr cyn ei myned rŷ hwyr.
Llif‐ddyfroedd dy farnau er codi yn uchel,
Diau ni chânt agosau ato ef;
7Wyt loches i minnau, rhag ing wyf ddiogel,
Canaf am gyflawn ymwared y nef.
8Y dwyfol arweiniad a gawn ond ei dderbyn,
Llygad yr Arglwydd a’n dysga mor fwyn;
9Na fyddwch gre’duriaid diddeall a chyndyn
* Ddelir yn agos a genfa ac a ffrwyn.
10Gofidiau aneirif a fydd i’r annuwiol,
Cylch o drugaredd yw cartref y saint;
11Rai cyfiawn, yn Nuw llawenhewch yn wastadol,
Cenwch yn llafar am uchder eich braint.
Chwazi Kounye ya:
Salmydd 32: SC1885
Pati Souliye
Pataje
Kopye
Ou vle gen souliye ou yo sere sou tout aparèy ou yo? Enskri oswa konekte
Cyhoeddwyd y casgliad gan G. Lewis ym Mhen-y-Groes 1885. Cafodd Salmau mydryddol Huw Myfyr eu digido gan Gymdeithas y Beibl yn 2025.