Luc 2:8-14
Luc 2:8-14 DAFIS
In ir un ardal we bugeilied in byw mas in i perci, in watsho i neud in shŵr bo ddim byd in digwidd i'r defed in i nos. A dâth angel ir Arglwidd aton nhwy, a fe sheinodd gogoniant ir Arglwidd rownd 'ddyn nhwy i gyd, a gethon nw ofon ofnadw. Gwedodd i'r angel wrthyn nhwy, “Peidwch câl ofon; dwi'n dod â newiddion da i chi, newiddion da am lawenydd i'r bobol i gyd, Heddi, in tre Dafydd, ma Gwaredwr wedi câl 'i eni i chi, fe yw'r Meseia. Fel hyn newch chi nabod e: ffeinidiwch chi fabi, wedi roi miwn dillad, in gorwe miwn mansher. A'n sidan reit we côr o'r nefodd 'da'r angel, a wen nw'n moli Duw a'n gweud, “Gogoniant i Dduw in i nefodd uchel, a heddwch ar i ddeiar, i'r rhei mae e wedi'u dewish.”



![[From Heaven to the Hay in the Heart] Part 2 Luc 2:8-14 Y Beder Ifengyl 2000 (Lyn Lewis Dafis) yn iaith Sir Benfro](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F29089%2F1440x810.jpg&w=3840&q=75)

