1
Iago 3:17
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
Ond am y ddoethineb sydd oddi uchod, y mae hon yn y lle cyntaf yn bur, ac yna'n heddychol, yn dirion, yn hawdd ymwneud â hi, yn llawn o drugaredd a'i ffrwythau daionus, yn ddiragfarn ac yn ddiragrith.
તુલના કરો
Iago 3:17 ખોજ કરો
2
Iago 3:13
Pwy sy'n ddoeth a deallus yn eich plith? Gadewch i hwnnw, trwy ei ymarweddiad da, ddangos ei weithredoedd mewn gwyleidd-dra sy'n dod o ddoethineb.
Iago 3:13 ખોજ કરો
3
Iago 3:18
Y mae cynhaeaf cyfiawnder yn cael ei hau mewn heddwch i'r rhai sy'n gwneud heddwch.
Iago 3:18 ખોજ કરો
4
Iago 3:16
Oherwydd lle bynnag y mae cenfigen ac uchelgais hunanol, yno hefyd y mae anhrefn a phob gweithred ddrwg.
Iago 3:16 ખોજ કરો
5
Iago 3:9-10
Â'r tafod yr ydym yn bendithio'r Arglwydd a'r Tad; â'r tafod hefyd yr ydym yn melltithio'r rhai a luniwyd ar ddelw Duw. O'r un genau y mae bendith a melltith yn dod. Fy nghyfeillion, nid felly y mae pethau i fod.
Iago 3:9-10 ખોજ કરો
6
Iago 3:6
A thân yw'r tafod; byd o anghyfiawnder ydyw, wedi ei osod ymhlith ein haelodau, yn halogi'r corff i gyd, ac yn rhoi holl gylch ein bodolaeth ar dân wrth iddo ef ei hun gael ei roi ar dân gan uffern.
Iago 3:6 ખોજ કરો
7
Iago 3:8
Ond nid oes neb sy'n gallu rheoli'r tafod. Drwg diorffwys yw, yn llawn o wenwyn marwol.
Iago 3:8 ખોજ કરો
8
Iago 3:1
Fy nghyfeillion, peidiwch â thyrru i fod yn athrawon, oherwydd fe wyddoch y byddwn ni'r athrawon yn cael ein barnu'n llymach.
Iago 3:1 ખોજ કરો