Ceidw Iehofa di rhag pob niwed,
Ceidw Ef dy fywyd.
Wrth dy orchwyl ac yn dy gartref
Ceidw Iehofa di
O’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
SALM CXXI
Am ystyr teitl y Salm hon ac eraill gwêl y Rhagymadrodd. Ni ellir dywedyd dim pendant am ei hawdur na’i chyfnod.