1
Hebreaid 4:12
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
BCND
Y mae gair Duw yn fyw a grymus; y mae'n llymach na'r un cleddyf daufiniog, ac yn treiddio hyd at wahaniad yr enaid a'r ysbryd, y cymalau a'r mêr; ac y mae'n barnu bwriadau a meddyliau'r galon.
Comparar
Explorar Hebreaid 4:12
2
Hebreaid 4:16
Felly, gadewch inni nesáu mewn hyder at orsedd gras, er mwyn derbyn trugaredd a chael gras yn gymorth yn ei bryd.
Explorar Hebreaid 4:16
3
Hebreaid 4:15
Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â'n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod.
Explorar Hebreaid 4:15
4
Hebreaid 4:13
Nid oes dim a grewyd yn guddiedig o'i olwg, ond y mae pob peth yn agored ac wedi ei ddinoethi o flaen llygaid yr Un yr ydym ni i roi cyfrif iddo.
Explorar Hebreaid 4:13
5
Hebreaid 4:14
Gan fod gennym, felly, archoffeiriad mawr sydd wedi mynd drwy'r nefoedd, sef Iesu, Mab Duw, gadewch inni lynu wrth ein cyffes.
Explorar Hebreaid 4:14
6
Hebreaid 4:11
Gadewch inni ymdrechu, felly, i fynd i mewn i'r orffwysfa honno, rhag i neb syrthio o achos yr un math o anufudd-dod.
Explorar Hebreaid 4:11