YouVersion Logo
Search Icon

Sechareia 1

1
Galwad i Ddychwelyd at yr ARGLWYDD
1Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido, a dweud, 2“Digiodd yr ARGLWYDD yn fawr wrth eich hynafiaid. 3Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Dychwelwch ataf fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘a dychwelaf finnau atoch chwi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. 4‘Peidiwch â bod fel eich hynafiaid, y galwodd y proffwydi gynt arnynt, a dweud, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Trowch oddi wrth eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd drygionus, ond ni wrandawsant na rhoi sylw imi,’ medd yr ARGLWYDD. 5‘Eich hynafiaid—ple maent? A'r proffwydi—a ydynt i fyw am byth? 6Ond y geiriau a'r deddfau a orchmynnais i'm gweision y proffwydi—oni ddaethant ar eich hynafiaid? A ddychwelasant hwy a dweud, Gwnaeth ARGLWYDD y Lluoedd fel y bwriadodd i ni am ein ffyrdd a'n gweithredoedd?’ ”
Gweledigaeth y Meirch
7Ar y pedwerydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, sef mis Sebat, o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido. 8Dywedodd Sechareia: Neithiwr cefais weledigaeth, dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, ac o'i ôl yr oedd meirch cochion, brithion a gwynion. 9A gofynnais, “Beth yw'r rhai hyn, arglwydd?” A dywedodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Dangosaf i ti beth ydynt.” 10Yna dywedodd y gŵr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, “Dyma'r rhai a anfonodd yr ARGLWYDD i dramwyo dros y ddaear.” 11A dywedasant wrth angel yr ARGLWYDD, a oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, “Yr ydym wedi bod dros y ddaear, ac y mae'r holl ddaear yn dawel ac yn heddychlon.” 12Yna atebodd angel yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD y Lluoedd, am ba hyd y peidi â thosturio wrth Jerwsalem ac wrth ddinasoedd Jwda, y dangosaist dy lid wrthynt y deng mlynedd a thrigain hyn?” 13A llefarodd yr Arglwydd eiriau caredig a chysurlon wrth yr angel oedd yn siarad â mi, 14a dywedodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Cyhoedda, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf yn eiddigeddus iawn dros Jerwsalem a thros Seion. 15Yr wyf yn llawn llid mawr yn erbyn y cenhedloedd y mae'n esmwyth arnynt, am iddynt bentyrru drwg ar ddrwg pan nad oedd fy llid ond bychan.’ 16Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Jerwsalem mewn trugaredd ac adeiledir fy nhŷ ynddi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac estynnir llinyn mesur dros Jerwsalem.’ 17Cyhoedda hefyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd fy ninasoedd eto'n orlawn o ddaioni; rhydd yr ARGLWYDD eto gysur i Seion, a bydd eto'n dewis Jerwsalem.’ ”
Gweledigaeth y Cyrn
18 # 1:18 Hebraeg, 2:1. Edrychais i fyny a gwelais, ac wele bedwar corn. 19A gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain?” A dywedodd wrthyf, “Dyma'r cyrn a wasgarodd Jwda, Israel a Jerwsalem.” 20Yna dangosodd yr ARGLWYDD imi bedwar gof. 21A dywedais, “Beth y mae'r rhain am ei wneud?” Atebodd, “Bu'r cyrn hyn yn gwasgaru Jwda mor llwyr fel na allai neb godi ei ben; ond daeth y gofaint i'w dychryn a dinistrio cyrn y cenhedloedd a gododd gorn yn erbyn gwlad Jwda i'w gwasgaru.”

Currently Selected:

Sechareia 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy