YouVersion Logo
Search Icon

Malachi 1

1
Oracl
1Gair yr ARGLWYDD i Israel trwy Malachi.
Duw yn Caru Jacob
2“Rwy'n eich caru,” medd yr ARGLWYDD, a dywedwch chwithau, “Ym mha ffordd yr wyt yn ein caru?” “Onid yw Esau'n frawd i Jacob?” medd yr ARGLWYDD. 3“Yr wyf yn caru Jacob, ond yn casáu Esau; gwneuthum ei fynyddoedd yn ddiffeithwch a'i etifeddiaeth yn gartref i siacal yr anialwch.” 4Os dywed Edom, “Maluriwyd ni, ond adeiladwn ein hadfeilion eto,” fe ddywed ARGLWYDD y Lluoedd fel hyn: “Os adeiladant, fe dynnaf i lawr, ac fe'u gelwir yn diriogaeth drygioni ac yn bobl y digiodd yr ARGLWYDD wrthynt am byth.” 5Cewch weld hyn â'ch llygaid eich hunain a dweud, “Y mae'r ARGLWYDD yn fawr hyd yn oed y tu allan i Israel.”
Ceryddu'r Offeiriaid
6“Y mae mab yn anrhydeddu ei dad, a gwas ei feistr. Os wyf fi'n dad, ple mae f'anrhydedd? Os wyf yn feistr, ple mae fy mharch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd wrthych chwi'r offeiriaid, sy'n dirmygu ei enw. A dywedwch, “Sut y bu inni ddirmygu dy enw?” 7“Wrth offrymu bwyd halogedig ar fy allor.” A dywedwch, “Sut y bu inni ei halogi?” “Wrth feddwl y gellir dirmygu bwrdd yr ARGLWYDD, 8a thybio, pan fyddwch yn offrymu anifeiliaid dall yn aberth, nad yw hynny'n ddrwg, a phan fyddwch yn offrymu rhai cloff neu glaf, nad yw hynny'n ddrwg. Pe dygech hyn i lywodraethwr y wlad, a fyddai ef yn fodlon ac yn dangos ffafr atoch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd. 9“Yn awr, ceisiwch ffafr Duw, er mwyn iddo drugarhau wrthym; a'r fath rodd gennych, a ddengys ef ffafr atoch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd. 10“O na fyddai rhywun o'ch plith yn cloi'r drysau, rhag i chwi aberthu'n ofer ar fy allor! Nid wyf yn fodlon o gwbl arnoch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ac ni dderbyniaf offrwm gennych. 11Oherwydd y mae f'enw yn fawr ymysg y cenhedloedd o'r dwyrain i'r gorllewin, ac ym mhob man offrymir arogldarth ac offrwm pur i'm henw; oherwydd mawr yw f'enw ymysg y cenhedloedd,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. 12“Ond yr ydych chwi yn ei halogi wrth feddwl y gallwch ddifwyno bwrdd yr ARGLWYDD â bwyd gwrthodedig. 13Wrth ei arogli, fe ddywedwch, ‘Mor atgas yw!’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Os dygwch anifeiliaid anafus, cloff neu glaf, a'u cyflwyno'n offrwm, a dderbyniaf hwy gennych?” medd yr ARGLWYDD. 14“Melltith ar y twyllwr sy'n addunedu hwrdd o'i braidd, ond sy'n aberthu i'r Arglwydd un â nam arno; oherwydd brenin mawr wyf fi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “a'm henw'n ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.”

Currently Selected:

Malachi 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy