YouVersion Logo
Search Icon

Hosea 1

1
1Gair yr ARGLWYDD at Hosea fab Beeri yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas, brenin Israel.
Gwraig a Phlant Hosea
2Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD.” 3Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo. 4Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar dŷ Jehu am waed Jesreel#1:4 H.y., Heua Duw., 5a rhof derfyn ar frenhiniaeth tŷ Israel. Y dydd hwnnw torraf fwa Israel yn nyffryn Jesreel.”
6Beichiogodd Gomer eilwaith a geni merch. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Enwa hi Lo-ruhama#1:6 Hebraeg, Heb-drugaredd., oherwydd ni wnaf drugaredd mwyach â thŷ Israel, i roi maddeuant iddynt. 7Ond gwnaf drugaredd â thŷ Jwda, a gwaredaf hwy trwy'r ARGLWYDD eu Duw; ond ni waredaf hwy trwy'r bwa, y cleddyf, rhyfel, meirch na marchogion.”
8Wedi iddi ddiddyfnu Lo-ruhama, beichiogodd Gomer a geni mab. 9A dywedodd yr ARGLWYDD, “Enwa ef Lo-ammi#1:9 Hebraeg, Nid-fy-mhobl., oherwydd nid ydych yn bobl i mi, na minnau'n Dduw i chwithau.”
Adfer Israel
10 # 1:10 Hebraeg, 2:1. Bydd nifer plant Israel fel tywod y môr,
na ellir ei fesur na'i rifo.
Yn y lle y dywedwyd wrthynt, “Nid-fy-mhobl ydych”,
fe ddywedir wrthynt, “Meibion y Duw byw”.
11Cesglir ynghyd blant Jwda a phlant Israel,
a gosodant iddynt un pen;
dônt i fyny o'r wlad,
oherwydd mawr fydd dydd Jesreel.

Currently Selected:

Hosea 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy