YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 1

1
Cyfrifiad Cyntaf Israel
1Flwyddyn ar ôl i bobl Israel adael gwlad yr Aifft, ar ddiwrnod cyntaf yr ail fis,#1:1 ail fis Sif, ail fis y calendr Hebreig, o tua canol Ebrill i ganol Mai. dyma’r ARGLWYDD yn siarad â Moses. Digwyddodd hyn yn y babell lle roedd Duw yn cyfarfod pobl, pan oedd pobl Israel yn anialwch Sinai. Dwedodd: 2“Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl bobl Israel. Dw i eisiau i ti restru enwau’r dynion i gyd – 3pawb sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â’r fyddin. Ti ac Aaron sydd i drefnu hyn, 4gyda help un dyn o bob llwyth sy’n arweinydd ar ei deulu estynedig.
5-15“Dyma enwau’r dynion sydd i’ch helpu chi:
Llwyth Arweinydd
Reuben Eliswr fab Shedeŵr
Simeon Shelwmiel fab Swrishadai
Jwda Nachshon fab Aminadab
Issachar Nethanel fab Tswár
Sabulon Eliab fab Chelon
Yna meibion Joseff:
Effraim Elishama fab Amihwd
Manasse Gamaliel fab Pedatswr
Wedyn,
Benjamin Abidan fab Gideoni
Dan Achieser fab Amishadai
Asher Pagiel fab Ochran
Gad Eliasaff fab Dewel
Nafftali Achira fab Enan.”
16Dyna’r arweinwyr gafodd eu dewis o bob llwyth yn benaethiaid ar bobl Israel.
17Felly dyma Moses ac Aaron, a’r dynion yma gafodd eu henwi, 18yn casglu’r bobl i gyd at ei gilydd y diwrnod hwnnw, sef diwrnod cyntaf yr ail fis. Cafodd pawb eu cofrestru, gan nodi’r llwyth a’r teulu roedden nhw’n perthyn iddo. Cafodd pob un o’r dynion oedd dros ugain oed eu rhestru, 19yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Digwyddodd y cyfrifiad yma yn anialwch Sinai.
20-43A dyma’r canlyniadau, sef nifer y dynion dros ugain oed allai ymuno â’r fyddin, gan ddechrau gyda Reuben (mab hynaf Israel):
Llwyth Nifer
Reuben 46,500
Simeon 59,300
Gad 45,650
Jwda 74,600
Issachar 54,400
Sabulon 57,400
Yna meibion Joseff:
Effraim 40,500
Manasse 32,200
Wedyn,
Benjamin 35,400
Dan 62,700
Asher 41,500
Nafftali 53,400
44Dyma niferoedd y dynion gafodd eu cyfri gan Moses, Aaron, a’r deuddeg arweinydd (pob un yn cynrychioli llwyth ei hynafiad). 45Cawson nhw eu cyfrif yn ôl eu teuluoedd – pob un dyn oedd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â’r fyddin. 46A’r cyfanswm oedd 603,550.
47Ond doedd y cyfanswm yna ddim yn cynnwys y dynion o lwyth Lefi. 48Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, 49“Paid cynnwys llwyth Lefi yn y cyfrifiad. 50Mae’r Lefiaid i fod i ofalu am Dabernacl y Dystiolaeth, a’r holl ddodrefn a’r offer sydd ynddo. Nhw sydd i’w gario, gofalu amdano, a gwersylla o’i gwmpas. 51Pan mae’r Tabernacl yn cael ei symud, y Lefiaid sydd i’w dynnu i lawr a’i godi eto. Os ydy rhywun arall yn mynd yn agos ato, y gosb fydd marwolaeth.
52“Bydd lle penodol i bob un o lwythau Israel wersylla, a bydd gan bob llwyth ei fflag ei hun. 53Ond bydd y Lefiaid yn gwersylla o gwmpas Tabernacl y Dystiolaeth, i amddiffyn pobl Israel rhag i’r ARGLWYDD ddigio gyda nhw. Cyfrifoldeb y Lefiaid ydy gofalu am Dabernacl y Dystiolaeth.”
54Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

Currently Selected:

Numeri 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy