YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 8

8
1Ond aeth Iesu i Fynydd yr Olewydd.
Y wraig wedi’i dal yn godinebu
2Pan wawriodd hi y bore wedyn, roedd Iesu yn ôl yng nghwrt y deml. Dyma dyrfa yn casglu o’i gwmpas, ac eisteddodd Iesu i’w dysgu nhw. 3Tra oedd yn dysgu’r bobl dyma rai o’r arbenigwyr yn y Gyfraith a’r Phariseaid yn dod ato gyda gwraig oedd wedi cael ei dal yn godinebu. Dyma nhw’n ei rhoi hi i sefyll yn y canol o flaen pawb, 4ac yna medden nhw wrth Iesu, “Athro, mae’r wraig hon wedi cael ei dal yn cael rhyw gyda dyn oedd ddim yn ŵr iddi. 5Yn y Gyfraith mae Moses yn dweud fod gwragedd o’r fath i gael eu llabyddio i farwolaeth gyda cherrig.#cyfeiriad at Lefiticus 20:10 a Deuteronomium 22:22-24 Beth wyt ti’n ei ddweud am y mater?” 6(Roedden nhw’n defnyddio’r cwestiwn fel trap, er mwyn cael sail i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.) Ond dyma Iesu’n plygu i lawr a dechrau ysgrifennu gyda’i fys yn y llwch ar lawr. 7Wrth iddyn nhw ddal ati i bwyso arno i ateb, edrychodd i fyny a dweud wrthyn nhw, “Os oes un ohonoch chi ddynion erioed wedi pechu, taflwch chi’r garreg gyntaf ati hi.” 8Yna plygodd eto ac ysgrifennu ar lawr.
9Ar ôl clywed beth ddwedodd e, dyma’r dynion yn gadael. Y rhai hynaf aeth gyntaf, a’r lleill yn dilyn, nes oedd neb ar ôl ond Iesu, a’r wraig yn dal i sefyll o’i flaen. 10Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?”
11“Nac oes syr, neb” meddai.
“Dw innau ddim yn dy gondemnio di chwaith,” meddai Iesu. “Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto.”#8:11 Dydy adn. 1-11 ddim yn rhai llawysgrifau. Mewn llawysgrifau eraill maen nhw’n ymddangos ar ôl 7:36 neu 21:25 neu Luc 21:38, gyda gwahaniaethau bach yn y geiriad.
Iesu, golau’r byd
12Pan oedd Iesu’n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau’r byd. Bydd gan y rhai sy’n fy nilyn i olau i’w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.”
13Ond dyma’r Phariseaid yn ymateb, “Rhoi tystiolaeth ar dy ran dy hun rwyt ti. Dydy tystiolaeth felly ddim yn ddilys.”
14Atebodd Iesu, “Hyd yn oed os ydw i’n tystio ar fy rhan fy hun, mae’r dystiolaeth yna’n ddilys. Dw i’n gwybod o ble dw i wedi dod ac i ble dw i’n mynd. Ond does gynnoch chi ddim syniad o ble dw i wedi dod nac i ble dw i’n mynd. 15Dych chi’n barnu yn ôl safonau dynol; dw i’n barnu neb felly. 16Os dw i’n barnu, dw i’n dyfarnu’n gywir, am fy mod i ddim yn barnu ar fy mhen fy hun. Mae’r Tad sydd wedi fy anfon i yn barnu gyda mi. 17Mae eich Cyfraith chi’n dweud yn glir fod tystiolaeth dau ddyn yn ddilys.#cyfeiriad at Deuteronomium 17:6; 19:15 18Dw i fy hun yn rhoi tystiolaeth, a’r Tad ydy’r tyst arall, yr un sydd wedi fy anfon i.”
19“Ble mae dy dad di?” medden nhw.
“Dych chi ddim wir yn gwybod pwy ydw i,” atebodd Iesu, “nac yn nabod fy Nhad chwaith. Tasech chi’n gwybod pwy ydw i, byddech chi’n nabod fy Nhad i hefyd.” 20Dwedodd hyn pan oedd yn dysgu yn y deml wrth ymyl y blychau lle roedd pobl yn rhoi eu harian i’r drysorfa. Ond wnaeth neb ei ddal, am fod ei amser iawn ddim wedi dod.
21Dwedodd Iesu wrthyn nhw dro arall, “Dw i’n mynd i ffwrdd. Byddwch chi’n edrych amdana i, ond yn marw yn eich pechod. Dych chi ddim yn gallu dod ble dw i’n mynd.”
22Gwnaeth hyn i’r arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy e’n mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam mae’n dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw i’n mynd’?”
23Ond aeth yn ei flaen i ddweud, “Dych chi’n dod o’r ddaear; dw i’n dod oddi uchod. O’r byd hwn dych chi’n dod; ond dw i ddim yn dod o’r byd hwn. 24Dyna pam ddwedais i y byddwch chi’n marw yn eich pechod – os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chi’n marw yn eich pechod.”
25“Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wedi’i ddweud o’r dechrau,” atebodd Iesu. 26“Mae gen i lawer i’w ddweud amdanoch chi, a digon i’w gondemnio. Mae’r un sydd wedi fy anfon i yn dweud y gwir, a beth dw i wedi’i glywed ganddo fe dw i’n ei gyhoeddi i’r byd.”
27Doedden nhw ddim yn deall ei fod yn siarad am Dduw y Tad. 28Felly dwedodd Iesu, “Pan fyddwch wedi fy nghodi i, Mab y Dyn, i fyny,#8:28 fy nghodi i i fyny: gw. nodyn ar 7:39. dyna pryd byddwch chi’n gwybod mai fi ydy e, ac nad ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth mae’r Tad wedi’i ddysgu i mi. 29Mae’r un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth sy’n ei blesio.”
Y gwirionedd sy’n rhoi rhyddid
30Daeth llawer o bobl i gredu ynddo tra oedd yn siarad. 31Yna dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch afael yn yr hyn dw i wedi’i ddangos i chi, dych chi’n ddilynwyr go iawn i mi. 32Byddwch yn dod i wybod beth sy’n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw’n rhoi rhyddid i chi.”
33“Dŷn ni’n ddisgynyddion i Abraham,” medden nhw, “fuon ni erioed yn gaethweision! Felly beth wyt ti’n ei feddwl wrth ddweud, ‘Byddwch chi’n cael bod yn rhydd’?”
34Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy’n pechu wedi’i gaethiwo gan bechod. 35Dydy caethwas ddim yn perthyn i’r teulu mae’n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth. 36Felly os ydy’r Mab yn eich rhyddhau chi byddwch yn rhydd go iawn. 37Dw i’n gwybod eich bod chi’n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi’n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i’n ddweud go iawn. 38Dw i’n cyhoeddi beth dw i wedi’i weld gyda’r Tad. Dych chi’n gwneud beth mae’ch tad chi’n ei ddweud wrthoch chi.”
39“Abraham ydy’n tad ni,” medden nhw.
“Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chi’n gwneud beth wnaeth Abraham. 40Yn lle hynny dych chi’n benderfynol o’m lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddi’r gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud peth felly! 41Na, gwneud y pethau mae’ch tad chi’n eu gwneud dych chi.”
“Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydy’r unig Dad sydd gynnon ni.”
Plant y diafol
42“Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi’n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i. 43Pam nad ydy be dw i’n ddweud yn gwneud sens i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i. 44Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi am wneud beth mae’ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o’r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i’r gwir ynddo. Pan mae’n dweud celwydd, mae’n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e! Tad pob celwydd! 45Ond dw i’n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i! 46Oes unrhyw un ohonoch chi’n gallu profi mod i’n euog o bechu? Felly os dw i’n dweud y gwir pam dych chi’n gwrthod credu? 47Mae pwy bynnag sy’n perthyn i Dduw yn gwrando ar beth mae Duw yn ei ddweud. Y rheswm pam dych chi ddim yn gwrando ydy am eich bod chi ddim yn perthyn i Dduw.”
Iesu ac Abraham
48“Y Samariad ddiawl!” medden nhw, “Dŷn ni’n iawn. Mae cythraul ynot ti!”
49“Fi? Does gen i ddim cythraul,” meddai Iesu, “Beth dw i’n ei wneud ydy anrhydeddu fy Nhad, a dych chi’n fy sarhau i. 50Dw i ddim yn edrych am glod i mi fy hun; ond mae un sy’n ei geisio, a fe ydy’r un sy’n barnu. 51Credwch chi fi – fydd pwy bynnag sy’n dal gafael yn yr hyn dw i wedi’i ddysgu iddyn nhw byth yn gweld marwolaeth.”
52Pan ddwedodd hyn dyma’r arweinwyr Iddewig yn gweiddi, “Mae’n gwbl amlwg fod cythraul ynot ti! Buodd Abraham farw, a’r proffwydi hefyd, a dyma ti’n honni y bydd y rhai sy’n dal gafael yn yr hyn rwyt ti’n ei ddysgu ddim yn marw. 53Wyt ti’n fwy o ddyn nag Abraham, tad y genedl? Buodd e farw, a’r proffwydi hefyd! Pwy wyt ti’n feddwl wyt ti?”
54Atebodd Iesu, “Os dw i’n canmol fy hun, dydy’r clod yna’n golygu dim byd. Fy Nhad sy’n fy nghanmol i, yr un dych chi’n hawlio ei fod yn Dduw i chi. 55Ond dych chi ddim wedi dechrau dod i’w nabod; dw i yn ei nabod e’n iawn. Petawn i’n dweud mod i ddim yn ei nabod e, byddwn innau’n gelwyddog fel chi. Dw i yn ei nabod e ac yn gwneud beth mae’n ei ddangos i mi. 56Roedd Abraham, eich tad, yn gorfoleddu wrth feddwl y câi weld yr amser pan fyddwn i’n dod; fe’i gwelodd, ac roedd wrth ei fodd.”
57“Ti ddim yn hanner cant eto!” meddai’r arweinwyr Iddewig wrtho, “Wyt ti’n honni dy fod di wedi gweld Abraham?”
58Atebodd Iesu, “Credwch chi fi – dw i’n bodoli ers cyn i Abraham gael ei eni.” 59Pan ddwedodd hyn, dyma nhw’n codi cerrig i’w taflu ato, ond cuddiodd Iesu ei hun, a llithro allan o’r deml.

Currently Selected:

Ioan 8: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy