YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 17

17
Iesu’n gweddïo drosto’i hun
1Ar ôl dweud hyn, edrychodd Iesu i fyny i’r nefoedd a dechrau gweddïo: “Dad, mae’r amser iawn wedi dod. Anrhydedda dy Fab, er mwyn i mi, y Mab hwnnw, ddangos dy ysblander di. 2Rwyt wedi rhoi awdurdod i mi dros y ddynoliaeth gyfan, i mi roi bywyd tragwyddol i’r rhai roist ti i berthyn i mi. 3Dyma beth ydy bywyd tragwyddol: iddyn nhw dy nabod di, yr unig Dduw sy’n bodoli go iawn, a Iesu y Meseia wyt ti wedi’i anfon. 4Dw i wedi dy anrhydeddu di ar y ddaear drwy orffen y gwaith roist ti i mi. 5Yn awr, Dad, rho i mi eto yr anrhydedd a’r ysblander oedd gen i pan oeddwn gyda ti hyd yn oed cyn i’r byd ddechrau.
Iesu’n gweddïo dros ei ddisgyblion
6“Dw i wedi dangos sut un wyt ti i’r rhai roist ti i mi allan o’r byd. Dy bobl di oedden nhw, a dyma ti’n eu rhoi nhw i mi, ac maen nhw wedi derbyn dy neges di. 7Bellach maen nhw’n gwybod mai oddi wrthot ti mae popeth wyt wedi’i roi i mi wedi dod. 8Dw i wedi dweud wrthyn nhw beth ddwedaist ti wrtho i, ac maen nhw wedi derbyn y cwbl. Maen nhw’n gwybod go iawn fy mod wedi dod oddi wrthot ti, ac yn credu mai ti sydd wedi fy anfon i.
9“Dw i’n gweddïo drostyn nhw. Dw i ddim yn gweddïo dros y byd, ond dros y rhai rwyt ti wedi’u rhoi i berthyn i mi. Dw i’n gweddïo drostyn nhw am mai dy bobl di ydyn nhw. 10Dy bobl di ydy pawb sydd gen i, a’m pobl i ydy dy bobl di, a dw i’n cael fy anrhydeddu drwyddyn nhw. 11Dw i ddim yn aros yn y byd ddim mwy, ond maen nhw’n dal yn y byd. Dw i’n dod atat ti. Dad Sanctaidd, cadw’r rhai wyt ti wedi’u rhoi i mi yn saff ac yn ffyddlon i ti dy hun, er mwyn iddyn nhw ddod yn un fel dŷn ni’n un. 12Tra dw i wedi bod gyda nhw, dw i wedi’u cadw nhw’n saff ac yn ffyddlon i ti. A chafodd dim un ohonyn nhw ei golli ar wahân i’r un oedd ar ei ffordd i ddinistr, er mwyn i’r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir.#gw. Salm 41:9; Ioan 13:18
13“Dw i’n dod atat ti nawr, ond dw i’n dweud y pethau yma tra dw i’n dal yn y byd er mwyn iddyn nhw gael bod yn wirioneddol hapus fel fi. 14Dw i wedi rhoi dy neges di iddyn nhw ac mae’r byd wedi’u casáu nhw, am eu bod nhw ddim yn perthyn i’r byd fwy na dw i’n perthyn i’r byd. 15Dw i ddim yn gweddïo ar i ti eu cymryd nhw allan o’r byd, ond ar i ti eu hamddiffyn nhw rhag yr un drwg. 16Dŷn nhw ddim yn perthyn i’r byd fwy na dw i’n perthyn i’r byd. 17Cysegra nhw i ti dy hun drwy’r gwirionedd; dy neges di ydy’r gwir. 18Dw i yn eu hanfon nhw allan i’r byd yn union fel wnest ti fy anfon i. 19Dw i’n cysegru fy hun er eu mwyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod wedi’u cysegru drwy’r gwirionedd.
Iesu’n gweddïo dros bawb fydd yn credu
20“Nid dim ond drostyn nhw dw i’n gweddïo. Dw i’n gweddïo hefyd dros bawb fydd yn credu ynof fi drwy eu neges nhw; 21dw i’n gweddïo y byddan nhw i gyd yn un, Dad, yn union fel rwyt ti a fi yn un. Dw i am iddyn nhw hefyd fod wedi’u huno â ni er mwyn i’r byd gredu mai ti sydd wedi fy anfon i. 22Dw i wedi rhoi iddyn nhw yr ysblander roist ti i mi, er mwyn iddyn nhw fod yn un fel dŷn ni yn un: 23Fi ynddyn nhw a ti ynof fi. Dw i am iddyn nhw gael eu dwyn i undod llawn, i’r byd gael gwybod mai ti sydd wedi fy anfon i, a dy fod ti wedi’u caru nhw yn union fel rwyt wedi fy ngharu i.
24“Dad, dw i am i’r rhai rwyt ti wedi’u rhoi i mi fod gyda mi ble rydw i, iddyn nhw weld fy ysblander i – yr ysblander roist ti i mi am dy fod di wedi fy ngharu i ers cyn i’r byd gael ei greu.
25“Dad Cyfiawn, dydy’r byd ddim yn dy nabod di, ond dw i yn dy nabod, ac mae’r rhain wedi dod i wybod mai ti sydd wedi fy anfon i. 26Dw i wedi dangos pwy wyt ti iddyn nhw, a bydda i’n dal ati i wneud hynny, er mwyn iddyn nhw garu eraill fel rwyt ti wedi fy ngharu i, ac i mi fy hun fod ynddyn nhw.”

Currently Selected:

Ioan 17: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy