YouVersion Logo
Search Icon

Galatiaid 1

1
1Llythyr gan Paul, cynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu.
Dim pobl ddewisodd fi i fod yn gynrychiolydd i’r Meseia, a dim rhyw ddyn cyffredin anfonodd fi, ond y Meseia Iesu ei hun, a Duw y Tad, yr un gododd e yn ôl yn fyw.
2Mae’r ffrindiau sydd gyda mi yma yn anfon eu cyfarchion. Atoch chi, yr eglwysi yn nhalaith Galatia:
3Dw i’n gweddïo y byddwch chi’n profi’r haelioni rhyfeddol a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist yn ei roi i ni. 4Gwnaeth Iesu yn union beth oedd ein Duw a’n Tad eisiau! Rhoddodd ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, er mwyn ein rhyddhau ni o afael yr oes bresennol a’i drygioni. 5Dyma’r Duw sy’n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen!
Dim Newyddion Da arall
6Dw i’n ei chael hi’n anodd credu eich bod chi’n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi’ch galw chi ato’i hun drwy haelioni’r Meseia – a derbyn rhyw syniadau eraill sy’n honni bod yn ‘newyddion da’. 7Ond does yna ddim newyddion da arall yn bod! Rhyw bobl sy’n eich drysu chi drwy ystumio’r newyddion da am y Meseia a’i wneud yn rhywbeth arall. 8Melltith Duw ar bwy bynnag sy’n cyhoeddi neges wahanol i’r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni’n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o’r nefoedd, melltith Duw arno! 9Dw i wedi dweud o’r blaen a dw i’n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i’r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno!
10Felly, ydw i’n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i’n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i’r Meseia.
Paul wedi’i alw gan Dduw
11Frodyr a chwiorydd, dw i eisiau i chi ddeall yn iawn mai dim rhywbeth wnaeth pobl ei ddychmygu ydy’r newyddion da yma dw i’n ei gyhoeddi. 12Dim clywed y neges gan rywun arall wnes i, a wnaeth neb arall ei dysgu hi i mi; na, y Meseia Iesu ei hun ddangosodd i mi beth oedd y gwir.
13Mae’n siŵr eich bod chi wedi clywed beth roeddwn i’n ei wneud pan o’n i’n dilyn y grefydd Iddewig: roeddwn i’n erlid Cristnogion fel ffanatig, ac yn ceisio dinistrio eglwys Dduw.#gw. Actau 8:3 (a hefyd Actau 22:4,5; 26:9-11) 14Rôn i’n cymryd crefydd gymaint o ddifri, ac ymhell ar y blaen i eraill oedd yr un oed â mi. Rôn i ar dân dros ein traddodiadau Iddewig ni. 15Ond roedd Duw wedi fy newis i cyn i mi gael fy ngeni, a buodd e’n anhygoel o garedig tuag ata i drwy fy ngalw i’w ddilyn. Gwelodd yn dda 16i ddangos ei Fab i mi, er mwyn i mi fynd allan i gyhoeddi’r newyddion da amdano i bobl o genhedloedd eraill! Wnes i ddim mynd i ofyn cyngor unrhyw un, 17na mynd i Jerwsalem i weld y rhai oedd yn gynrychiolwyr i Iesu o mlaen i chwaith. Na, es i’n syth i Arabia, ac wedyn mynd yn ôl i Damascus.
18Aeth tair blynedd heibio cyn i mi fynd i Jerwsalem i dreulio amser gyda Pedr,#1:18 Pedr: Groeg, “Ceffas”, enw Aramaeg sy’n golygu ‘craig’ – yr un fath â’r enw Pedr. a dim ond am bythefnos arhosais i yno. 19Welais i ddim un o’r cynrychiolwyr eraill, dim ond Iago, brawd yr Arglwydd. 20Dyna’r gwir – o flaen Duw, heb air o gelwydd! 21Ar ôl hynny dyma fi’n mynd i Syria a Cilicia. 22Doedd Cristnogion eglwysi Jwdea ddim yn fy nabod i’n bersonol, 23ond roedden nhw wedi clywed pobl yn dweud: “Mae’r dyn oedd yn ein herlid ni wedi dod i gredu! Mae’n cyhoeddi’r newyddion da roedd e’n ceisio ei ddinistrio o’r blaen!” 24Roedden nhw’n moli Duw am beth oedd wedi digwydd i mi.

Currently Selected:

Galatiaid 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy