YouVersion Logo
Search Icon

2 Timotheus 4

4
1Y Meseia Iesu ydy’r un fydd yn barnu pawb (y rhai sy’n dal yn fyw a’r rhai sydd wedi marw). Mae e’n mynd i ddod yn ôl i deyrnasu. Felly, gyda Duw a Iesu Grist yn dystion i mi, dw i’n dy siarsio di 2i gyhoeddi neges Duw. Dal ati i wneud hynny os ydy pobl yn barod i wrando neu beidio. Rhaid i ti gywiro pobl, ceryddu weithiau, annog dro arall – a gwneud hynny gydag amynedd mawr ac yn ofalus dy fod yn ffyddlon i’r gwir. 3Mae’r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw’n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed. 4Byddan nhw’n gwrthod beth sy’n wir ac yn dilyn straeon celwyddog. 5Ond, Timotheus, paid cynhyrfu beth bynnag sy’n digwydd. Paid bod ag ofn dioddef. Dal ati i rannu’r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi’i roi i ti.
6Dw i wedi cyrraedd pen y daith. Mae fy mywyd i fel petai wedi’i dywallt ar yr allor fel diodoffrwm.#4:6 diodoffrwm: Weithiau roedd gwin yn cael ei dywallt ar yr allor gyda’r anifail oedd yn cael ei aberthu. #gw. Exodus 29:40-41; Lefiticus 23:13; Numeri 15:5-10 Mae’r amser i mi adael y byd yma wedi dod. 7Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i’r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon. 8Bellach mae’r wobr wedi’i chadw i mi, sef coron y bywyd cyfiawn. Bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi i mi ar y diwrnod pan ddaw yn ôl – a ddim i mi yn unig, ond i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn frwd iddo ddod yn ôl.
Sylwadau Personol
9Gwna dy orau i ddod yma’n fuan. 10Mae Demas wedi caru pethau’r byd yma – mae e wedi fy ngadael i a mynd i Thesalonica. Mae Crescens wedi mynd i Galatia, a Titus i Dalmatia. 11Dim ond Luc sydd ar ôl. Tyrd â Marc gyda ti pan ddoi di. Mae e wedi bod yn help mawr i mi yn y gwaith. 12Dw i’n anfon Tychicus i Effesus. 13A phan ddoi di, tyrd â’r gôt adewais i yn nhŷ Carpus yn Troas. A thyrd â’r sgroliau hefyd – hynny ydy, y memrynau.
14Mae Alecsander y gweithiwr metel wedi gwneud llawer o ddrwg i mi. Ond bydd yr Arglwydd yn talu nôl iddo beth mae’n ei haeddu.#cyfeiriad at Salm 28:4; 62:12; 2 Samuel 3:39; Diarhebion 24:12a (gw. hefyd Mathew 16:27; Rhufeiniaid 2:6) 15Gwylia dithau e! Mae e wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu ein neges ni.
16Ddaeth neb i’m cefnogi i yn yr achos llys cyntaf. Roedd pawb wedi troi’u cefnau arna i. Dw i ddim am i Dduw ddal y peth yn eu herbyn nhw. 17Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi’r newyddion da yn llawn, er mwyn i’r holl bobl oedd yno o genhedloedd eraill ei glywed. Ces fy achub o afael y llew am y tro!#adlais o Salm 22:20-21 (cf. Daniel 6:21,23) 18A dw i’n gwybod y bydd yr Arglwydd yn fy amddiffyn i o afael pob drwg,#adlais o eiriau Iesu yng Ngweddi’r Arglwydd – Mathew 6:13 ac yn fy arwain yn saff i’r nefoedd ble mae e’n teyrnasu. Mae’n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen!
Cyfarchion i gloi
19Cofia fi at Priscila ac Acwila a phawb yn nhŷ Onesifforws. 20Mae Erastus wedi aros yn Corinth. Roedd Troffimus yn sâl, ac roedd rhaid i mi ei adael yn Miletus. 21Plîs, gwna dy orau glas i ddod yma cyn i’r gaeaf gyrraedd. Mae Ewbwlos yn cofio atat ti, a hefyd Pwdens, Linus, Clawdia. Mae’r brodyr a’r chwiorydd i gyd yn cofio atat ti.
22Dw i’n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn dy amddiffyn di, ac y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw!

Currently Selected:

2 Timotheus 4: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy