YouVersion Logo
Search Icon

2 Timotheus 1

1
1Llythyr gan Paul, gafodd ei ddewis gan Dduw yn gynrychiolydd personol i’r Meseia Iesu. Wedi fy anfon i ddweud wrth bobl am y bywyd sydd wedi’i addo i’r rhai sydd â pherthynas â Iesu y Meseia,
2At Timotheus, sydd fel mab annwyl i mi:
Dw i’n gweddïo y byddi di’n profi’r haelioni rhyfeddol, y trugaredd a’r heddwch dwfn mae Duw ein Tad a’r Meseia Iesu, ein Harglwydd, yn ei roi i ni.
Anogaeth i fod yn ffyddlon
3Dw i mor ddiolchgar i Dduw amdanat ti – y Duw dw i’n ei wasanaethu gyda chydwybod glir, fel y gwnaeth fy nghyndadau. Dw i bob amser yn cofio amdanat ti wrth weddïo ddydd a nos. 4Dw i’n cofio dy ddagrau di pan oeddwn i’n dy adael, a dw i’n hiraethu am dy weld di eto. Byddai hynny’n fy ngwneud i’n wirioneddol hapus. 5Dw i’n cofio fel rwyt ti’n ymddiried yn yr Arglwydd. Roedd Lois, dy nain, ac Eunice, dy fam, yn credu go iawn, a dw i’n gwybod yn iawn dy fod ti yr un fath.#gw. Actau 16:1 6Dyna pam dw i am i ti ailgynnau’r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw i ti pan wnes i osod dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i’r gwaith. 7Dydy Duw ddim wedi rhoi ei Ysbryd i ni fod yn llwfr, ond i’n gwneud ni’n gryf, yn llawn cariad ac yn gyfrifol.
8Felly paid bod â chywilydd dweud wrth eraill am ein Harglwydd ni. A phaid bod â chywilydd ohono i chwaith, am fy mod i yn y carchar am ei wasanaethu. Sefyll gyda mi yn nerth Duw, a bydd yn fodlon dioddef dros y newyddion da. 9Mae Duw wedi’n hachub ni a’n galw ni i fyw bywyd glân. Wnaethon ni ddim i haeddu hyn. Duw ei hun ddewisodd wneud y peth. Mae e mor hael! Mae e wedi dod â ni i berthynas â’r Meseia Iesu. Trefnodd hyn i gyd ymhell cyn i amser ddechrau, 10a bellach mae haelioni Duw i’w weld yn glir, am fod ein Hachubwr ni, y Meseia Iesu, wedi dod. Mae wedi dinistrio grym marwolaeth a dangos beth ydy bywyd tragwyddol ac anfarwoldeb drwy’r newyddion da. 11Dyma’r newyddion da dw i wedi cael fy newis i’w gyhoeddi a’i ddysgu fel cynrychiolydd personol Iesu. 12Dyna pam dw i’n dioddef fel rydw i. Ond does gen i ddim cywilydd, achos dw i’n nabod yr un dw i wedi credu ynddo. Dw i’n hollol sicr ei fod yn gallu cadw popeth dw i wedi’i roi yn ei ofal yn saff, nes daw’r diwrnod pan fydd e’n dod yn ôl.
13Cofia beth wnes i ei ddweud, a’i gadw fel patrwm o ddysgeidiaeth gywir. Dal di ati i gredu ynddo ac i garu eraill am dy fod yn perthyn i’r Meseia Iesu. 14Gyda help yr Ysbryd Glân sy’n byw ynon ni, cadw’r trysor sydd wedi’i roi yn dy ofal yn saff.
15Fel rwyt ti’n gwybod, mae pawb yn nhalaith Asia wedi troi cefn arna i, gan gynnwys Phygelus a Hermogenes.
16Dw i’n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn arbennig o garedig at Onesifforws a phawb arall yn ei dŷ. Mae e wedi codi fy nghalon i lawer gwaith, a doedd ganddo ddim cywilydd fy mod i yn y carchar. 17Yn hollol fel arall! – pan ddaeth i Rufain, buodd yn chwilio amdana i ym mhobman nes llwyddo i ddod o hyd i mi. 18Boed i’r Arglwydd fod yn arbennig o garedig ato ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod yn ôl! Rwyt ti’n gwybod cymaint o help fuodd e i mi yn Effesus.

Currently Selected:

2 Timotheus 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy