YouVersion Logo
Search Icon

2 Brenhinoedd 1

1
Elias yn condemnio’r brenin Ahaseia
1Ar ôl i’r brenin Ahab farw, dyma wlad Moab yn gwrthryfela yn erbyn Israel.
2Tua’r un adeg dyma’r Brenin Ahaseia yn syrthio o ffenest llofft ei balas yn Samaria a chael ei anafu. Dyma fe’n anfon negeswyr a dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi Baal-sebwb, duw Ecron,#1:2 Ecron Un o bum tref y Philistiaid (gw. 1 Samuel 6:17), oedd tua 40 milltir i’r de-orllewin o Samaria. os bydda i’n gwella o’r anaf yma.” 3Ond roedd angel yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Elias o Tishbe, “Dos i gyfarfod negeswyr Brenin Samaria, a gofyn iddyn nhw, ‘Ai am fod yna ddim Duw yn Israel dych chi’n mynd i holi Baal-sebwb, duw Ecron? 4Felly, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o’r gwely yna. Ti’n mynd i farw!’” Yna dyma Elias yn mynd i ffwrdd.
5Aeth y negeswyr yn ôl at Ahaseia, a dyma fe’n gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi wedi dod y ôl?” 6A dyma nhw’n ateb, “Daeth rhyw ddyn aton ni a dweud, ‘Ewch yn ôl at y brenin sydd wedi’ch anfon chi a dweud wrtho, “Ai am fod yna ddim Duw yn Israel wyt ti’n anfon dynion i holi Baal-sebwb, duw Ecron? Felly, dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Fyddi di ddim yn codi o’r gwely yna. Ti’n mynd i farw!”’” 7“Disgrifiwch y dyn i mi,” meddai’r brenin. 8A dyma nhw’n ateb, “Dyn blewog, ac roedd ganddo felt ledr am ei ganol.” Meddai’r brenin, “Elias, y boi yna o Tishbe oedd e!”
9Yna dyma’r brenin yn anfon un o gapteiniaid ei fyddin gyda hanner cant o ddynion i ddal Elias. Roedd Elias yn eistedd ar ben bryn; a dyma’r capten yn mynd ato a dweud, “Broffwyd Duw, mae’r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.” 10Ond dyma Elias yn ei ateb, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o’r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna’n union ddigwyddodd! Daeth tân i lawr o’r awyr a’i ladd e a’i filwyr.
11Felly dyma’r brenin yn anfon capten gyda hanner cant arall o ddynion i ddal Elias. Aeth hwnnw eto at Elias a galw arno, “Broffwyd Duw, brysia! Mae’r brenin yn dweud wrthot ti am ddod i lawr.” 12Ond dyma Elias yn ateb eto, “Os dw i wir yn broffwyd Duw, bydd tân yn dod i lawr o’r awyr ac yn dy ladd di a dy ddynion!” A dyna ddigwyddodd eto! Daeth tân i lawr oddi wrth Dduw a lladd y capten a’i filwyr.
13Yna dyma’r brenin yn anfon trydydd capten gyda hanner cant o ddynion. Pan ddaeth hwnnw at Elias, dyma fe’n mynd ar ei liniau o’i flaen a chrefu arno. “Broffwyd Duw, plîs, arbed fy mywyd i a bywyd dy weision, y dynion yma. 14Dw i’n gwybod fod tân wedi dod i lawr o’r awyr a lladd y ddau gapten cyntaf a’u dynion. Plîs arbed fy mywyd i!” 15A dyma angel yr ARGLWYDD yn dweud wrth Elias, “Dos i lawr gydag e, paid bod ag ofn.” Felly dyma Elias yn mynd gydag e at y brenin.
16Dyma Elias yn dweud wrth y brenin, “Mae’r ARGLWYDD yn dweud, ‘Oes yna ddim Duw yn Israel i’w holi? Am dy fod ti wedi troi at Baal-sebwb, duw Ecron, fyddi di ddim yn codi o’r gwely yna, ti’n mynd i farw!’” 17A dyna ddigwyddodd. Buodd Ahaseia farw, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud drwy Elias.
Doedd ganddo ddim mab, felly dyma’i frawd Joram yn dod yn frenin yn ei le. Roedd hyn yn ystod ail flwyddyn Jehoram fab Jehosaffat yn frenin ar Jwda.
18Mae gweddill hanes Ahaseia, a’r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i’w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

Currently Selected:

2 Brenhinoedd 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy