YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 8

8
Prosiectau adeiladu a llwyddiant Solomon
(1 Brenhinoedd 9:10-28)
1Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau adeiladu teml yr ARGLWYDD a’r palas. 2Aeth ati i ailadeiladu’r trefi roedd Huram wedi’u rhoi iddo, a symud rhai o bobl Israel i fyw yno. 3Aeth Solomon i ymladd yn erbyn tref Chamath-soba, a’i choncro. 4Adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a’r holl ganolfannau lle roedd ei storfeydd yn Chamath. 5Gwnaeth Beth-choron uchaf a Beth-choron isaf yn gaerau amddiffynnol gyda waliau a giatiau y gellid eu cloi gyda barrau, 6hefyd Baalath. Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a’r trefi ar gyfer y cerbydau a’r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad.
7Roedd yna lawer o bobl yn dal i fyw yn y wlad oedd ddim yn Israeliaid – Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. 8(Roedd disgynyddion y bobl yma’n dal yn y wlad, am fod Israel wedi methu cael gwared â nhw i gyd pan wnaethon nhw goncro’r wlad.) Dyma Solomon yn gorfodi’r bobl yma i weithio iddo’n ddi-dâl. A dyna’r drefn hyd heddiw. 9Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei brif-swyddogion, capteiniaid ei gerbydau a’i farchogion. 10Roedd yna ddau gant pum deg ohonyn nhw yn gweithio i’r Brenin Solomon fel arolygwyr dros y bobl.
11Yna dyma Solomon yn symud merch y Pharo o ddinas Dafydd i’r palas roedd e wedi’i adeiladu iddi. “Does dim gwraig i mi yn cael byw ym mhalas Dafydd, brenin Israel – achos mae ble bynnag mae Arch yr ARGLWYDD wedi bod yn gysegredig.”
12Yna dyma Solomon yn cyflwyno aberthau i’w llosgi i’r ARGLWYDD ar yr allor roedd wedi’i chodi o flaen cyntedd y deml. 13Roedd yn gwneud hyn yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn – bob dydd, ar bob Saboth, ar ŵyl y lleuad newydd bob mis, ac ar y tair gŵyl fawr arall bob blwyddyn (sef Gŵyl y Bara Croyw, Gŵyl y Cynhaeaf#8:13 Gŵyl y Cynhaeaf Hebraeg, “Gŵyl yr Wythnosau”. a Gŵyl y Pebyll). 14Fel roedd ei dad Dafydd wedi gorchymyn, trefnodd yr offeiriaid mewn grwpiau gwahanol i gyflawni eu cyfrifoldebau. Trefnodd y Lefiaid i arwain y mawl ac i helpu’r offeiriaid fel roedd angen pob dydd. Hefyd gosododd ofalwyr y giatiau yn eu grwpiau i fod yn gyfrifol am y gwahanol giatiau. Roedd Dafydd, dyn Duw, wedi trefnu hyn i gyd. 15Wnaethon nhw ddim anghofio unrhyw un o orchmynion y brenin am yr offeiriaid, y Lefiaid, y trysordai a phopeth arall. 16Cafodd yr holl waith orchmynnodd Solomon ei wneud, o’r diwrnod y cafodd y sylfeini eu gosod nes roedd y deml wedi’i gorffen. Dyna sut cafodd teml yr ARGLWYDD ei hadeiladu.
17Yna dyma Solomon yn mynd i Etsion-geber, ac i Elat ar yr arfordir yng ngwlad Edom. 18A dyma Huram yn anfon llongau a morwyr profiadol i fynd gyda’i weision i Offir, a dod â tua un deg chwech tunnell o aur o’r fan honno i’r Brenin Solomon.

Currently Selected:

2 Cronicl 8: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy