YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 34

34
Joseia yn frenin ar Jwda
(2 Brenhinoedd 22:1-6)
1Wyth oed oedd Joseia pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am dri deg un o flynyddoedd. 2Roedd yn gwneud beth oedd yn plesio’r ARGLWYDD, ac yn dilyn esiampl y Brenin Dafydd, ei hynafiad, heb grwydro oddi wrth hynny o gwbl.
3Pan oedd wedi bod yn frenin am wyth mlynedd, ac yn dal yn fachgen ifanc un deg chwech oed, dechreuodd addoli Duw fel y Brenin Dafydd. Yna pan oedd yn ugain oed aeth ati i lanhau a phuro Jwda a Jerwsalem drwy gael gwared â’r holl allorau lleol, polion y dduwies Ashera, y delwau cerrig a’r delwau o fetel tawdd. 4Gorchmynnodd fod allorau Baal i gael eu chwalu, a’r allorau arogldarth uwch eu pennau. Cafodd polion y dduwies Ashera eu torri i lawr, a’r eilunod a’r delwau o fetel eu malu. Roedden nhw’n eu malu’n llwch mân, ac yna’n taflu’r llwch ar feddau’r bobl oedd wedi bod yn aberthu arnyn nhw. 5Yna cafodd esgyrn yr offeiriaid paganaidd eu llosgi ar eu hallorau eu hunain.
Ar ôl puro Jwda a Jerwsalem, 6dyma fe’n gwneud yr un fath yn y trefi ac adfeilion y pentrefi o’u cwmpas yn ardaloedd Manasse, Effraim a Simeon, a chyn belled a Nafftali. 7Chwalodd yr allorau a’r polion Ashera, malu’r delwau yn llwch mân, a dinistrio’r allorau arogldarth drwy diroedd gwlad Israel i gyd. Yna aeth yn ôl i Jerwsalem.
8Pan oedd wedi bod yn frenin am un deg wyth o flynyddoedd roedd yn dal i buro’r wlad a’r deml. Anfonodd Shaffan fab Atsaleia, gyda Maaseia, rheolwr y ddinas a Ioach fab Ioachas y cofnodydd, i atgyweirio teml yr ARGLWYDD ei Dduw. 9Dyma nhw’n mynd at Chilceia, yr archoffeiriad, a rhoi’r arian oedd wedi’i gasglu yn y deml iddo. Roedd y Lefiaid oedd yn gwarchod y drysau wedi’i gasglu gan bobl Manasse ac Effraim, a phawb oedd ar ôl yn Israel, a hefyd pobl Jwda, Benjamin a’r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem. 10A dyma nhw’n ei basio ymlaen i’r rhai oedd yn goruchwylio’r gwaith ar y deml, i dalu’r gweithwyr oedd yn gwneud y gwaith atgyweirio. 11Cafodd yr arian ei roi i’r seiri coed a’r adeiladwyr i brynu cerrig wedi’u naddu, a choed ar gyfer y trawstiau a’r distiau, i atgyweirio’r adeiladau roedd brenhinoedd Jwda wedi’u hesgeuluso. 12Roedd y gweithwyr yn onest ac yn gydwybodol. Lefiaid oedd yn goruchwylio – Iachath ac Obadeia oedd yn ddisgynyddion Merari, a Sechareia a Meshwlam yn ddisgynyddion i Cohath. Roedd Lefiaid eraill oedd yn gerddorion dawnus 13yn goruchwylio’r labrwyr a’r gweithwyr eraill. Roedd rhai o’r Lefiaid yn ysgrifenyddion, neu yn swyddogion neu yn gofalu am y drysau.
Hilcea yn darganfod sgrôl y Gyfraith
(2 Brenhinoedd 22:8-20)
14Wrth iddyn nhw ddod â’r arian oedd wedi’i roi yn y deml allan, dyma Chilceia yr offeiriad yn ffeindio sgrôl o’r Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD i Moses. 15Felly dyma Chilceia’n dweud wrth Shaffan yr ysgrifennydd, “Dw i wedi ffeindio sgrôl o’r Gyfraith yn y deml!” A dyma fe’n rhoi’r sgrôl i Shaffan. 16Yna dyma Shaffan yn mynd â’r sgrôl a dweud wrth y brenin, “Mae dy weision wedi gwneud popeth wnest ti ddweud wrthyn nhw. 17Maen nhw wedi cyfri’r arian oedd yn y deml, ac wedi’i drosglwyddo i’r dynion sy’n goruchwylio ac i’r gweithwyr.” 18Yna aeth Shaffan yn ei flaen i ddweud wrth y brenin, “Mae Chilceia’r offeiriad wedi rhoi’r sgrôl yma i mi.” A dyma fe’n darllen ohoni i’r brenin. 19Pan glywodd y brenin eiriau’r Gyfraith, dyma fe’n rhwygo’i ddillad. 20Yna dyma fe’n galw am Chilceia, Achicam fab Shaffan, Abdon fab Micha, Shaffan yr ysgrifennydd ac Asaia ei was personol. 21A dyma fe’n dweud wrthyn nhw, “Ewch i holi’r ARGLWYDD ar fy rhan i a’r bobl sydd ar ôl yn Israel a Jwda, am beth mae’r sgrôl yma’n ddweud. Mae’r ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda ni am fod ein hynafiaid heb fod yn ufudd iddo a gwneud beth mae’r sgrôl yma’n ddweud.”
22Felly dyma Chilceia a’r rhai eraill ddewisodd y brenin yn mynd at Hulda y broffwydes. Roedd hi’n wraig i Shalwm (mab Ticfa ac ŵyr Chasra) oedd yn gofalu am y gwisgoedd. Roedd hi’n byw yn Jerwsalem yn y rhan newydd o’r ddinas. A dyma nhw’n dweud yr hanes wrthi. 23Yna dyma hi’n dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dwedwch wrth y dyn wnaeth eich anfon chi ata i 24mod i’n mynd i ddod â dinistr ofnadwy ar y wlad yma ac ar y bobl sy’n byw yma. Bydd yn union fel mae’r melltithion yn y sgrôl sydd wedi’i darllen i frenin Jwda yn dweud. 25Dw i wedi gwylltio’n lân gyda nhw, a does dim yn mynd i newid hynny. Maen nhw wedi bod yn llosgi arogldarth i dduwiau eraill, a’m gwylltio i gyda’r delwau maen nhw wedi’u gwneud.’ 26Ond dwedwch hefyd wrth frenin Jwda, sydd wedi’ch anfon chi i holi’r ARGLWYDD, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud am beth rwyt ti wedi’i glywed: 27“Am dy fod ti wedi teimlo i’r byw ac edifarhau pan glywaist ti fy mod i wedi rhybuddio’r lle yma; am dy fod ti wedi edifarhau a rhwygo dy ddillad ac wylo o mlaen i, dw i wedi gwrando,” – yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. 28“Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma a’i phobl.”’” A dyma’r dynion yn mynd â’r neges yn ôl i’r brenin.
Diwygiadau Crefyddol Joseia
(2 Brenhinoedd 23:1-20)
29Dyma’r brenin Joseia yn galw arweinwyr Jwda i gyd at ei gilydd yn Jerwsalem. 30Yna dyma fe’n mynd i’r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a’r Lefiaid gydag e. Roedd pawb yno, o’r ifancaf i’r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi’i darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb. 31A dyma’r brenin yn sefyll yn ei le ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a chadw’i orchmynion, ei ofynion a’i reolau. Roedd yn addo cadw amodau’r ymrwymiad oedd yn y sgrôl. 32A dyma fe’n galw ar bawb yn Jerwsalem a Benjamin i wneud yr un fath. Gwnaeth pobl Jerwsalem hynny, ac adnewyddu’r ymrwymiad gyda Duw eu hynafiaid. 33Felly dyma Joseia’n cael gwared a’r holl bethau ffiaidd oedd yn Israel, ac annog pobl Israel i gyd i addoli’r ARGLWYDD eu Duw. A tra buodd e’n frenin wnaethon nhw ddim stopio addoli’r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.

Currently Selected:

2 Cronicl 34: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy