YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 28

28
Ahas yn frenin Jwda
(2 Brenhinoedd 16:1-4)
1Roedd Ahas yn ugain oed pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Ond wnaeth e ddim plesio’r ARGLWYDD fel gwnaeth y Brenin Dafydd. 2Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel. Yn waeth na hynny, gwnaeth ddelwau metel o dduwiau Baal, 3aberthu iddyn nhw yn Nyffryn Ben-hinnom, a llosgi ei fab yn aberth – arferiad cwbl ffiaidd y bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi’u gyrru allan o’r wlad o flaen Israel. 4Roedd yn aberthu anifeiliaid a llosgi arogldarth ar yr allorau lleol ar y bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog.
Rhyfel yn erbyn Syria ac Israel
(2 Brenhinoedd 16:5)
5Felly dyma’r ARGLWYDD yn gadael i frenin Syria ymosod arno a’i goncro. Cafodd llawer o’r bobl eu cymryd yn gaeth i Damascus. Wedyn dyma frenin Israel yn ei orchfygu hefyd, a chafodd llawer iawn o’i fyddin eu lladd. 6Lladdwyd 120,000 o filwyr Jwda mewn un diwrnod gan fyddin Pecach fab Remaleia, brenin Israel. Digwyddodd hyn i gyd am fod Jwda wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. 7Roedd Sichri, un o arwyr Effraim, wedi lladd Maaseia mab y brenin, Asricam prif swyddog y palas, ac Elcana y swyddog uchaf yn y deyrnas ar ôl y brenin ei hun. 8Cymerodd yr Israeliaid 200,000 o bobl yn gaeth – gwragedd a phlant. Ac roedden nhw wedi dwyn lot fawr o bethau gwerthfawr hefyd a mynd â’r cwbl yn ôl i Samaria.
Y proffwyd Oded
9Roedd yna broffwyd i’r ARGLWYDD o’r enw Oded yn Samaria. Dyma fe’n mynd i gyfarfod y fyddin wrth iddyn nhw gyrraedd y ddinas, a dwedodd wrthyn nhw, “Gwrandwch. Roedd yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi digio gyda Jwda, a gadawodd i chi eu trechu nhw. Ond dych chi wedi mynd dros ben llestri, a lladd yn gwbl ddidrugaredd, ac mae Duw wedi sylwi. 10A dyma chi nawr yn bwriadu gorfodi pobl Jwda a Jerwsalem i fod yn gaethweision a chaethferched i chi. Ydych chi hefyd ddim wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw? 11Nawr, gwrandwch arna i. Anfonwch y rhai dych chi wedi’u cymryd yn gaeth yn ôl adre. Mae’r ARGLWYDD wedi gwylltio gyda chi.”
12Yna dyma rai o arweinwyr Effraim (sef Asareia fab Iehochanan, Berecheia fab Meshilemoth, Iechisceia fab Shalwm ac Amasa fab Hadlai), yn mynd i wynebu’r rhai oedd wedi dod yn ôl o’r frwydr. 13Dyma nhw’n dweud wrthyn nhw, “Gewch chi ddim dod â’r bobl gymeroch chi’n gaethion yma, i’n gwneud ni’n euog hefyd. Mae’r ARGLWYDD wedi digio gydag Israel fel y mae hi, heb fynd i wneud pethau’n waeth.” 14Felly o flaen yr arweinwyr a phawb dyma’r milwyr yn rhyddhau’r bobl oedd wedi’u cymryd yn gaeth, a rhoi popeth roedden nhw wedi’i gymryd yn ysbail yn ôl.
15Cafodd dynion eu dewis i ofalu am y bobl. Dyma nhw’n ffeindio dillad o’r ysbail i’r rhai oedd yn noeth eu gwisgo, rhoi sandalau, bwyd a diod iddyn nhw, ac olew i’w rwbio ar eu croen. Yna dyma nhw’n rhoi pawb oedd yn methu cerdded ar asynnod, a mynd â nhw i gyd yn ôl at eu perthnasau i Jericho, dinas y palmwydd. Wedyn dyma’r dynion yn dod yn ôl adre i Samaria.
Ahas yn cau y Deml
(2 Brenhinoedd 16:7-9)
16Bryd hynny dyma’r Brenin Ahas yn gofyn i frenin Asyria am help. 17Roedd byddin Edom wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd pobl yn gaeth. 18Roedd y Philistiaid hefyd wedi bod yn ymosod ar drefi Jwda yn yr iseldir a’r Negef. Roedden nhw wedi concro a setlo yn Beth-shemesh, Aialon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a’r pentrefi o’u cwmpas. 19Roedd yr ARGLWYDD yn dysgu gwers i Jwda am fod Ahas yn anffyddlon i’r ARGLWYDD ac wedi gadael i bethau fynd allan o reolaeth yn llwyr. 20Daeth Tiglath-pileser brenin Asyria ato, ond gwnaeth bethau’n waeth iddo yn lle ei helpu. 21Cymerodd Ahas drysorau o’r deml, y palas, ac o dai ei swyddogion a rhoi’r cwbl i frenin Asyria. Ond wnaeth hynny ddim ei helpu e.
22Drwy’r holl drafferthion i gyd roedd Ahas yn mynd o ddrwg i waeth, ac yn fwy anffyddlon nag erioed. 23Dechreuodd aberthu i dduwiau Damascus oedd wedi’i orchfygu. Roedd yn meddwl, “Gwnaeth duwiau Syria eu helpu nhw. Os gwna i aberthu iddyn nhw, falle y gwnân nhw fy helpu i.” Ond achosodd hynny ei gwymp e a Jwda gyfan. 24Dyma Ahas yn casglu holl lestri’r deml a’u malu’n ddarnau. Yna dyma fe’n cau drysau teml yr ARGLWYDD a chodi allorau paganaidd ar gornel pob stryd yn Jerwsalem. 25Cododd allorau lleol ym mhob tref yn Jwda i losgi arogldarth i dduwiau eraill. Roedd yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid, wedi gwylltio’n lân gydag e.
26Mae gweddill hanes Ahas, a’r hyn wnaeth e, o’r dechrau i’r diwedd, i’w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Jwda ac Israel. 27Pan fuodd Ahas farw, dyma nhw’n ei gladdu gyda’i hynafiaid yn y ddinas, sef Jerwsalem. Wnaethon nhw ddim ei osod ym mynwent brenhinoedd Israel. A dyma Heseceia, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

Currently Selected:

2 Cronicl 28: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy