YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 26

26
Wseia yn frenin Jwda
(2 Brenhinoedd 14:21-22; 15:1-7)
1Dyma bobl Jwda yn cymryd Wseia, oedd yn un deg chwech oed, a’i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia. 2Adeiladodd Wseia dref Elat a’i hadfer i Jwda ar ôl i’r brenin Amaseia farw. 3Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu’n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iecholeia, ac roedd hi’n dod o Jerwsalem. 4Fel ei dad Amaseia roedd Wseia yn gwneud beth oedd yn plesio’r ARGLWYDD.
5Sechareia oedd cynghorydd ysbrydol Wseia, a tra oedd Sechareia’n fyw roedd Wseia’n dilyn yr ARGLWYDD, ac roedd Duw yn gwneud iddo lwyddo. 6Aeth i ryfel yn erbyn y Philistiaid, a chwalu waliau Gath, Iabne ac Ashdod. Wedyn adeiladodd drefi yn ardal Ashdod ac ar hyd a lled tiriogaeth y Philistiaid. 7Roedd Duw wedi’i helpu yn ei ymgyrchoedd yn erbyn y Philistiaid, yr Arabiaid oedd yn byw yn Gwr-baal, a’r Mewniaid. 8Roedd yr Ammoniaid yn talu trethi iddo hefyd, a daeth yn enwog hyd at ffiniau gwlad yr Aifft am ei fod mor gryf.
9Dyma Wseia’n adeiladu a chryfhau tyrau amddiffynnol yn Jerwsalem, wrth Giât y Gornel, Giât y Dyffryn a lle mae’r ongl yn y wal. 10Adeiladodd dyrau amddiffynnol a chloddio pydewau yn yr anialwch hefyd, gan fod ganddo lawer o anifeiliaid yn Seffela ac ar y gwastadedd. Roedd yn hoff iawn o ffermio. Roedd ganddo weithiwr yn trin y tir a gofalu am y gwinllannoedd ar y bryniau ac yn Carmel.
11Roedd gan Wseia fyddin o filwyr yn barod i ryfela. Roedden nhw wedi cael eu trefnu yn gatrawdau gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia oedd yn swyddog yn y fyddin. Chananeia, un o swyddogion y brenin, oedd yn goruchwylio’r cyfan. 12Roedd yna 2,600 o bennau teuluoedd yn arwain catrawd o filwyr yn y fyddin. 13Roedd byddin o 370,500 o filwyr ganddyn nhw, yn barod i amddiffyn y brenin yn erbyn ei elynion. 14Dyma Wseia’n paratoi digon o darianau, gwaywffyn, helmedau, arfwisg, bwâu a ffyn tafl a cherrig i’r fyddin gyfan. 15Dyma fe’n cael pobl i ddyfeisio peiriannau rhyfel a’u gosod ar dyrau a chorneli waliau Jerwsalem. Roedd y rhain yn gallu taflu saethau a cherrig mawr. Roedd Duw wedi helpu Wseia a’i wneud yn arweinydd pwerus iawn, ac roedd yn enwog yn bell ac agos.
Pechod Wseia a’i gosb
16Ond wrth fynd yn gryf dyma fe’n troi’n falch. Ac aeth ei falchder yn drech nag e. Bu’n anffyddlon i’r ARGLWYDD ei Dduw. Aeth i mewn i deml yr ARGLWYDD a llosgi arogldarth ar allor yr arogldarth. 17Dyma Asareia ac wyth deg o offeiriaid dewr yn mynd ar ei ôl. 18Dyma nhw’n herio Wseia a dweud wrtho, “Nid dy le di, Wseia, ydy llosgi arogldarth i’r ARGLWYDD. Cyfrifoldeb yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, ydy gwneud hynny. Maen nhw wedi cael eu neilltuo’n arbennig i’r gwaith. Dos allan o’r deml. Ti wedi bod yn anffyddlon, a fydd yr ARGLWYDD ddim yn dy anrhydeddu di am hyn.” 19Roedd Wseia wedi gwylltio. Roedd ganddo lestr o arogldarth yn ei law, ac wrth iddo arthio a gweiddi ar yr offeiriaid dyma glefyd heintus yn torri allan ar ei dalcen. Digwyddodd hyn o flaen llygaid yr offeiriaid, yn y deml wrth ymyl allor yr arogldarth. 20Pan welodd Asareia’r archoffeiriad, a’r offeiriaid eraill, y dolur ar ei dalcen, dyma nhw’n ei hel allan ar frys. Yn wir roedd e ei hun yn brysio i fynd allan gan mai’r ARGLWYDD oedd wedi’i daro’n wael. 21Bu Wseia’n dioddef o glefyd heintus ar y croen nes iddo farw. Roedd rhaid iddo fyw ar wahân i bawb arall, a doedd e ddim yn cael mynd i deml yr ARGLWYDD. Ei fab Jotham oedd yn rhedeg y palas ac yn rheoli’r wlad bryd hynny.
22Mae gweddill hanes Wseia, o’r dechrau i’r diwedd, wedi’i ysgrifennu gan y proffwyd Eseia fab Amos. 23Pan fu farw, cafodd Wseia ei gladdu heb fod yn bell o ble claddwyd ei hynafiaid, ond mewn mynwent arall oedd yn perthyn i’r brenhinoedd. (Cafodd ei osod ar wahân am ei fod yn dioddef o glefyd heintus ar y croen.) A daeth ei fab Jotham yn frenin yn ei le.

Currently Selected:

2 Cronicl 26: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy