YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 20

20
Llwyddiant milwrol Jehosaffat
1Beth amser wedyn dyma fyddinoedd Moab ac Ammon, a rhai o’r Mewniaid gyda nhw, yn dod i ryfela yn erbyn Jehosaffat. 2Daeth negeswyr i ddweud wrth Jehosaffat, “Mae yna fyddin enfawr yn dod yn dy erbyn o gyfeiriad Edom, yr ochr draw i’r Môr Marw. Maen nhw yn Chatsason-tamar yn barod!” (Enw arall ar En-gedi oedd Chatsason-tamar.) 3Roedd Jehosaffat wedi dychryn wrth glywed hyn, a dyma fe’n troi at yr ARGLWYDD am arweiniad. Gorchmynnodd fod pawb yn Jwda i ymprydio. 4Felly dyma bobl Jwda yn dod at ei gilydd i ofyn i’r ARGLWYDD am help. Roedden nhw wedi dod o bob un o drefi Jwda.
5Safodd Jehosaffat gyda’r dyrfa o flaen yr iard newydd yn y deml. 6A dyma fe’n gweddïo,
“O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, onid ti ydy’r Duw yn y nefoedd sy’n llywodraethu dros holl deyrnasoedd y byd? Ti’n Dduw nerthol a grymus, a does neb yn gallu sefyll yn dy erbyn. 7Onid ti, ein Duw, wnaeth yrru’r bobl oedd yn byw yn y wlad yma allan o flaen dy bobl Israel? Ti wnaeth roi’r tir yma i ddisgynyddion Abraham dy ffrind, am byth. 8Maen nhw wedi byw yma, ac wedi adeiladu teml i dy anrhydeddu di, gan gredu, 9‘Os daw unrhyw drychineb, fel byddin yn ymosod, cael ein barnu drwy haint neu newyn, gallwn ddod i sefyll yma o dy flaen, o flaen y deml (gan dy fod ti’n bresennol yma). Gallwn alw arnat ti a byddi’n gwrando ac yn ein hachub ni.’ 10Ond nawr mae byddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir yn ymosod arnon ni! Dyma’r bobloedd wnest ti ddim gadael i Israel eu concro ar y ffordd allan o’r Aifft. Roedd rhaid i bobl Israel fynd heibio iddyn nhw a pheidio’u difa. 11Ac edrych sut maen nhw’n talu’n ôl i ni nawr! Maen nhw’n dod i’n gyrru ni allan o’r tir wnest ti ei roi i ni. 12Ein Duw, plîs wnei di eu cosbi nhw? Dŷn ni ddim ddigon cryf i wrthsefyll y fyddin enfawr yma sy’n ymosod arnon ni. Dŷn ni ddim yn gwybod beth i’w wneud. Dŷn ni’n troi atat ti am help.”
13Roedd dynion Jwda i gyd yn sefyll o flaen yr ARGLWYDD gyda’i babis bach, eu gwragedd a’u plant. 14Yna yng nghanol y dyrfa dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn disgyn ar un o’r Lefiaid o dylwyth Asaff, sef Iachsiel fab Sechareia (ŵyr i Benaia fab Jeiel, mab Mataneia). 15Dyma fe’n dweud,
“Gwrandwch bobl Jwda, a chi sy’n byw yn Jerwsalem, a’r Brenin Jehosaffat. Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud wrthoch chi, ‘Peidiwch bod ag ofn a pheidiwch panicio am y fyddin fawr yma. Brwydr Duw ydy hon nid eich brwydr chi. 16Ewch allan yn eu herbyn yfory pan fyddan nhw’n dod i fyny drwy Fwlch Sis. Byddan nhw ym mhen draw’r ceunant, o flaen Anialwch Ierwel. 17Fyddwch chi ddim yn gorfod ymladd y frwydr yma. Byddwch yn sefyll lle rydych chi, ac yn gweld yr ARGLWYDD yn eich achub, bobl Jwda a Jerwsalem. Peidiwch bod ag ofn na phanicio. Ewch allan yn eu herbyn yfory; mae’r ARGLWYDD gyda chi!’”
18Yna dyma Jehosaffat yn ymgrymu â’i wyneb ar lawr, a dyma bobl Jwda a’r rhai oedd yn byw yn Jerwsalem yn plygu i lawr i addoli’r ARGLWYDD. 19Yna dyma’r Lefiaid o deulu Cohath a theulu Cora yn sefyll a chanu mawl i’r ARGLWYDD, Duw Israel, ar dop eu lleisiau.
20Yn gynnar y bore wedyn dyma nhw’n martsio allan i gyfeiriad Anialwch Tecoa. Pan oedden nhw ar fin gadael dyma Jehosaffat yn sefyll a dweud, “Gwrandwch arna i bobl Jwda, a chi sy’n byw yn Jerwsalem. Os gwnewch chi drystio’r ARGLWYDD eich Duw, byddwch yn iawn. Credwch beth ddwedodd ei broffwydi a byddwch yn llwyddo.” 21Ar ôl trafod gyda’r bobl dyma fe’n gosod cerddorion o flaen y fyddin i addoli’r ARGLWYDD sydd mor hardd yn ei gysegr, a chanu,
“Diolchwch i’r ARGLWYDD;
Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!”
22Wrth iddyn nhw ddechrau gweiddi a moli dyma’r ARGLWYDD yn cael grwpiau i ymosod ar fyddinoedd Ammon, Moab a Mynydd Seir oedd yn dod i ryfela yn erbyn Jwda, a’u trechu nhw. 23Dyma filwyr Ammon a Moab yn ymosod ar filwyr Mynydd Seir a’u dinistrio nhw’n llwyr. Ar ôl iddyn nhw wneud hynny dyma nhw’n ymosod ar ei gilydd. 24Erbyn i fyddin Jwda gyrraedd y tŵr gwylio sy’n edrych allan i’r anialwch, y cwbl oedd ar ôl o’r fyddin fawr oedd cyrff marw ar lawr. Roedden nhw i gyd wedi’u lladd! 25Dyma Jehosaffat a’i filwyr yn mynd i gasglu beth allen nhw, a chael cymaint o offer, dillad a phethau gwerthfawr, roedd gormod ohono i’w gario! Cymerodd dri diwrnod cyfan iddyn nhw gasglu’r cwbl!
26Ar y pedwerydd diwrnod dyma pawb yn casglu at ei gilydd yn Nyffryn Beracha i addoli’r ARGLWYDD (Dyna pam mae’r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Beracha – sef Dyffryn y Fendith – hyd heddiw.) 27Yna dyma Jehosaffat yn arwain y dynion i gyd yn ôl i Jerwsalem yn llawen. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi rheswm da iddyn nhw ddathlu! 28Dyma nhw’n mynd i mewn i’r ddinas i sŵn nablau, telynau ac utgyrn, a dyma nhw’n mynd yn syth i deml yr ARGLWYDD.
29Roedd gan y gwledydd o’u cwmpas ofn Duw ar ôl clywed sut roedd yr ARGLWYDD wedi ymladd yn erbyn gelynion Israel. 30Cafodd teyrnas Jehosaffat heddwch; roedd Duw wedi rhoi heddwch iddo o bob cyfeiriad.
Crynodeb o deyrnasiad Jehosaffat
(1 Brenhinoedd 22:41-50)
31Daeth Jehosaffat yn frenin ar Jwda pan oedd yn dri deg pump. Bu’n frenin yn Jerwsalem am ddau ddeg pump o flynyddoedd. Aswba, merch Shilchi oedd ei fam. 32Fel Asa, ei dad, gwnaeth Jehosaffat bethau oedd yn plesio’r ARGLWYDD. 33Ond gafodd yr allorau lleol ddim eu cymryd i ffwrdd, a doedd y bobl yn dal ddim yn hollol ffyddlon i Dduw eu hynafiaid.
34Mae gweddill hanes Jehosaffat, o’r dechrau i’r diwedd, i’w cael yn Negeseuon Jehw fab Chanani, sydd wedi’i gadw yn y sgrôl, Hanes Brenhinoedd Israel. 35Yn ddiweddarach dyma Jehosaffat, brenin Jwda yn dod i gytundeb gydag Ahaseia, brenin Israel, oedd yn frenin drwg. 36Dyma nhw’n cytuno i adeiladu llongau masnach mawr#20:36 llongau masnach mawr Hebraeg, “Llongau Tarshish” – sef llongau allai deithio’n bell ar y môr mawr. ym mhorthladd Etsion-geber. 37A dyma Elieser fab Dodafa o Maresha yn proffwydo yn erbyn Jehosaffat, “Am dy fod ti wedi dod i gytundeb gydag Ahaseia, bydd yr ARGLWYDD yn dryllio dy waith.” A chafodd y llongau eu dryllio, a wnaethon nhw erioed hwylio.

Currently Selected:

2 Cronicl 20: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy