YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 2

2
Casglu deunyddiau i adeiladu’r deml
(1 Brenhinoedd 5:1-18)
1Dyma Solomon yn gorchymyn adeiladu teml i anrhydeddu’r ARGLWYDD a phalas brenhinol iddo’i hun. 2Roedd gan Solomon 70,000 o labrwyr, 80,000 o chwarelwyr yn y bryniau, a 3,600 o fformyn i arolygu’r gweithwyr.
3Dyma Solomon yn anfon neges at Huram, brenin Tyrus: “Wnei di fy helpu i, fel gwnest ti helpu fy nhad Dafydd? Gwnest ti anfon coed cedrwydd iddo fe i adeiladu ei balas. 4Dw i’n mynd i adeiladu teml i anrhydeddu’r ARGLWYDD fy Nuw. Bydd yn cael ei chysegru i losgi arogldarth persawrus iddo, gosod y bara o’i flaen, a chyflwyno offrymau sydd i’w llosgi’n llwyr iddo bob bore a nos, ar y Sabothau, y lleuadau newydd ac unrhyw adegau eraill mae’r ARGLWYDD ein Duw yn eu pennu. Mae pobl Israel i fod i wneud y pethau yma bob amser. 5Dw i’n mynd i adeiladu teml wych iddo, am fod ein Duw ni yn fwy na’r duwiau eraill i gyd. 6Ond wedyn, pwy sy’n gallu adeiladu teml iddo fe, gan fod yr awyr a’r nefoedd uchod ddim digon mawr iddo? Pwy ydw i i adeiladu teml iddo! Dim ond lle i aberthu iddo fydd hi.
7“Anfon grefftwr medrus ata i sy’n gweithio gydag aur, arian, pres a haearn, a hefyd lliain porffor, coch a glas, ac yn gallu cerfio. Gall e weithio gyda’r crefftwyr sydd gen i yma yn Jerwsalem a Jwda, y rhai wnaeth fy nhad Dafydd eu dewis. 8Ac mae gen ti weision sy’n arbenigo mewn trin coed yn Libanus. Felly anfon goed i mi hefyd – cedrwydd, pinwydd, a pren algwm. Gall y gweithwyr sydd gen i helpu dy weithwyr di 9i gasglu digonedd o goed i mi, achos mae’r deml dw i’n mynd i’w hadeiladu yn mynd i fod yn un fawr, wych. 10Gwna i dalu i dy weision di am dorri’r coed – dwy fil o dunelli o wenith, dwy fil o dunelli o haidd, cant dau ddeg mil o alwyni o win, a chant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd.”
11Dyma Huram, brenin Tyrus yn anfon llythyr yn ôl at Solomon, yn dweud, “Mae’r ARGLWYDD wedi dy wneud di’n frenin ar ei bobl am ei fod yn eu caru nhw.” 12Dwedodd hefyd, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wnaeth greu’r nefoedd a’r ddaear! Mae wedi rhoi mab doeth i Dafydd – mab llawn dirnadaeth a deall. Bydd yn adeiladu teml i’r ARGLWYDD, a phalas brenhinol iddo’i hun. 13Dw i’n mynd i anfon crefftwr sy’n feistr yn ei waith atat ti, sef Huram-afi. 14Mae ei fam yn dod o lwyth Dan, ond ei dad o Tyrus. Mae e’n gallu gweithio gydag aur, arian, pres, haearn, carreg a choed, a hefyd lliain main porffor, glas a coch. Mae’n gallu cerfio unrhyw gynllun sy’n cael ei roi iddo. Gall e weithio gyda dy grefftwyr di a’r rhai ddewisodd Dafydd dy dad. 15Felly anfon y gwenith, haidd, olew olewydd a’r gwin rwyt ti wedi’i addo i ni, 16a gwnawn ni ddarparu’r holl goed sydd gen ti ei angen o Libanus, a’i anfon dros y môr ar rafftiau i Jopa. Gelli di wedyn drefnu i symud y cwbl i Jerwsalem.”
17Dyma Solomon yn cynnal cyfrifiad o’r holl fewnfudwyr oedd yn byw yn Israel, yn dilyn y cyfrifiad roedd Dafydd ei dad wedi’i gynnal. Roedd yna 153,600 i gyd. 18Dyma fe’n gwneud 70,000 ohonyn nhw yn labrwyr, 80,000 i weithio yn y chwareli yn y bryniau, a 3,600 ohonyn nhw yn arolygwyr i wneud yn siŵr fod y gwaith i gyd yn cael ei wneud.

Currently Selected:

2 Cronicl 2: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy