YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 19

19
1Pan gyrhaeddodd Jehosaffat adre’n ôl yn saff i’r palas yn Jerwsalem, 2dyma’r proffwyd Jehw fab Chanani yn mynd i’w weld. Dyma fe’n dweud wrth y brenin, “Ydy’n iawn dy fod ti’n helpu’r dyn drwg yna, Ahab, a gwneud ffrindiau hefo pobl sy’n casáu yr ARGLWYDD? Mae’r ARGLWYDD wedi digio go iawn hefo ti am wneud y fath beth. 3Ac eto ti wedi gwneud pethau da. Rwyt ti wedi cael gwared â pholion y dduwies Ashera o’r wlad ac wedi bod yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD.”
Jehosaffat yn penodi barnwyr
4Roedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond roedd yn mynd allan at y bobl i bob rhan o’r wlad, o Beersheba i fryniau Effraim, i’w hannog nhw i droi’n ôl at yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid. 5Penododd farnwyr ym mhob un o drefi caerog Jwda, 6a dweud wrthyn nhw, “Gwyliwch beth dych chi’n wneud. Dim plesio pobl ydy’ch gwaith chi. Dych chi’n barnu ar ran yr ARGLWYDD, a bydd e gyda chi wrth i chi wneud hynny. 7Dangoswch barch ato a gwneud beth sy’n iawn. Dydy’r ARGLWYDD ddim yn hoffi anghyfiawnder, dangos ffafriaeth na derbyn breib.”
8Yn Jerwsalem dyma Jehosaffat hefyd yn penodi Lefiaid, offeiriaid a rhai o benaethiaid Israel i farnu ar ran yr ARGLWYDD ac i ddyfarnu unrhyw achosion rhwng y bobl. 9Dyma fe’n dweud wrthyn nhw, “Rhaid i chi ddangos parch at yr ARGLWYDD a gwneud y gwaith yn onest ac yn ddidwyll. 10Pan fydd eich pobl sy’n byw yn y pentrefi yn dod ag achos atoch, rhybuddiwch nhw i beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. (Bydd achosion o dywallt gwaed a materion eraill yn ymwneud â’r gyfraith a deddfau a rheolau gwahanol.) Os na wnewch chi eu rhybuddio nhw bydd Duw yn ddig gyda chi a’ch cydweithwyr. Ond os byddwch chi’n ufudd, fyddwch chi ddim yn euog. 11Amareia’r offeiriad fydd â’r gair olaf ar unrhyw fater yn ymwneud â cyfraith yr ARGLWYDD. A Sebadeia fab Ishmael, arweinydd llwyth Jwda, fydd yn delio gyda phopeth sy’n ymwneud â’r brenin. Bydd y Lefiaid yn gweithredu fel swyddogion gweinyddol. Gwnewch eich gwaith yn hyderus! Bydd yr ARGLWYDD gyda’r rhai sy’n gwneud job dda ohoni!”

Currently Selected:

2 Cronicl 19: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy