YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 11

11
Proffwydoliaeth Shemaia
(1 Brenhinoedd 12:21-24)
1Daeth Rehoboam yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl. 2Ond cafodd Shemaia y proffwyd neges gan yr ARGLWYDD. 3“Dwed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Israel yn Jwda a Benjamin: 4‘Mae’r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw’n gwrando ar yr ARGLWYDD a wnaethon nhw ddim ymosod ar Jeroboam.
Rehoboam yn frenin Jwda
5Roedd Rehoboam yn byw yn Jerwsalem. Trodd nifer o drefi yn Jwda yn gaerau amddiffynnol: 6Bethlehem, Etam, Tecoa, 7Beth-Tswr, Socho, Adwlam, 8Gath, Maresha, Siff, 9Adoraim, Lachish, Aseca, 10Sora, Aialon, a Hebron. Dyma’r trefi amddiffynnol oedd yn Jwda a Benjamin. 11Dyma fe’n cryfhau’r amddiffynfeydd, gosod swyddogion milwrol yno, ac adeiladu stordai i gadw bwyd, olew olewydd a gwin. 12Roedd tarianau a gwaywffyn ym mhob un o’r trefi. Gwnaeth nhw’n hollol saff, a dyna sut cadwodd ei afael ar Jwda a Benjamin.
Offeiriaid a Lefiaid yn symud i Jerwsalem
13Roedd yr offeiriaid a’r Lefiaid o bob rhan o Israel yn ei gefnogi. 14Roedd y Lefiaid hyd yn oed wedi gadael eu tir a’u heiddo a symud i Jwda ac i Jerwsalem, achos roedd Jeroboam a’i feibion wedi’u rhwystro nhw rhag bod yn offeiriaid i’r ARGLWYDD. 15Roedd wedi penodi ei offeiriaid ei hun i wasanaethu wrth yr allorau lleol, ac arwain y bobl i addoli gafr-ddemoniaid#Lefiticus 17:7; Eseia 13:21; 34:14 a’r teirw ifanc roedd e wedi’u gwneud. 16A dyma bawb o lwythau Israel oedd eisiau addoli’r ARGLWYDD, Duw Israel, yn dilyn y Lefiaid i Jerwsalem. Yno roedden nhw’n gallu cyflwyno aberthau i’r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid. 17Roedden nhw’n cryfhau teyrnas Jwda, ac am dair blynedd roedden nhw’n cefnogi Rehoboam fab Solomon. Buon nhw’n cadw gorchmynion Dafydd a Solomon am y tair blynedd.
Teulu Rehoboam
18Dyma Rehoboam yn priodi Machalath, oedd yn ferch i Ierimoth (un o feibion Dafydd) ac Abihaïl (oedd yn ferch i Eliab fab Jesse). 19Cawson nhw dri o feibion, sef Iewsh, Shemareia a Saham. 20Yna, ar ei hôl hi, dyma fe’n priodi Maacha, merch Absalom. Dyma hi’n cael plant hefyd, sef Abeia, Attai, Sisa a Shlomith. 21Roedd Rehoboam yn caru Maacha (merch Absalom) fwy na’i wragedd eraill a’i gariadon. (Roedd ganddo un deg wyth o wragedd a chwe deg o bartneriaid,#11:21 o bartneriaid Mae’r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair. a chafodd ddau ddeg wyth o feibion a chwe deg o ferched.)
22Dyma Rehoboam yn penodi Abeia, oedd yn fab i Maacha, yn bennaeth ar ei frodyr; roedd e eisiau iddo fod yn frenin ar ei ôl. 23Yn ddoeth iawn gwnaeth ei feibion i gyd yn gyfrifol am wahanol drefi amddiffynnol drwy Jwda a Benjamin. Dyma fe’n rhoi digon o fwyd iddyn nhw a darparu digon o wragedd ar eu cyfer.

Currently Selected:

2 Cronicl 11: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy