YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 2

2
1Wedi geni’r Iesu ym Methlehem Iwdea yn nyddiau Herod frenin, dyma ddewiniaid o’r dwyrain yn dyfod i Gaersalem, 2gan ddywedyd, “Pa le mae’r hwn a aned yn Frenin yr Iddewon? Canys gwelsom ei seren ef pan gododd,#2:2 Neu, yn y dwyrain a daethom i’w addoli ef.” 3A phan glywodd y brenin Herod, fe’i cyffrowyd, a holl Gaersalem gydag ef; 4ac wedi casglu ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, ymofynnodd â hwynt pa le y genid y Crist. 5Dywedasant hwythau wrtho, “Ym Methlehem Iwdea; canys fel hyn y mae’n ysgrifenedig drwy’r proffwyd:
6 A thithau, Fethlehem tir Iwda,
nid lleiaf o gwbl wyt ymhlith llywodraethwyr Iwda;
canys ohonot ti y daw Arweinydd,
ac ef a fugeilia fy mhobl Israel.”
7Yna, wedi i Herod alw’r dewiniaid yn ddirgel, mynnodd wybod yn fanwl ganddynt am amser ymddangosiad y seren; 8ac anfonodd hwynt i Fethlehem, a dywedodd, “Ewch, a holwch yn fanwl am y plentyn, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y delwyf innau i’w addoli.” 9Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; a dyna’r seren a welsent pan gododd#2:9 Neu, yn y dwyrain yn eu rhagflaenu, nes iddi ddyfod a sefyll uwchben y fan yr oedd y plentyn. 10Ac wedi canfod y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben. 11Ac wedi dyfod i’r tŷ, gwelsant y plentyn gyda Mair ei fam, a syrthio a’i addoli; ac agorasant eu trysorau ac offrwm iddo anrhegion — aur a thus a myrr. 12Ac wedi eu rhybuddio oddi uchod mewn breuddwyd i beidio â dychwelyd at Herod, diangasant i’w gwlad ar hyd ffordd arall.
13Ac wedi iddynt ddianc, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseff gan ddywedyd, ’“Cyfod, cymer y plentyn a’i fam, a ffo i’r Aifft, ac aros yno nes i mi ddywedyd wrthyt; canys y mae Herod ar fedr ceisio’r plentyn i’w ddistrywio.” 14Cododd yntau, a chymerth y plentyn a’i fam liw nos, a dianc i’r Aifft; 15a bu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, O’r Aifft y gelwais fy mab.
16Yna pan welodd Herod mai cellwair ag ef a wnaethai’r dewiniaid, fe ffromodd yn aruthr, ac anfonodd a lladd yr holl fechgyn a oedd ym Methlehem ac yn ei holl ororau o ddwyflwydd ac isod, yn ôl yr amser yr holodd yn fanwl amdano gan y dewiniaid. 17Yna y cyflawnwyd yr hyn a lefarwyd trwy Ieremïas y proffwyd:
18 Llef yn Rama a glywyd,
wylofain a galar mawr:
Rahel yn wylo am ei phlant,
ac ni fynnai ei chysuro, am nad ydynt.
19Ond wedi marw Herod, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos mewn breuddwyd i Ioseff yn yr Aifft 20gan ddywedyd, “Cyfod a chymer y plentyn a’i fam, a dos i wlad Israel; canys meirw yw’r rhai a geisiai einioes y plentyn.” 21Cododd yntau, a chymerth y plentyn a’i fam, ac aeth i wlad Israel. 22Ond wedi clywed bod Archelaus yn teyrnasu yn Iwdea yn lle ei dad Herod, ofnodd fynd yno; ac wedi ei rybuddio oddi uchod mewn breuddwyd dihangodd i barthau Galilea, 23ac aeth i gartrefu mewn dinas a elwir Nasareth, fel y cyflawnid yr hyn a lefarwyd trwy’r proffwydi mai Nasaread y gelwid ef.

Currently Selected:

Mathew 2: CUG

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy