YouVersion Logo
Search Icon

Galarnad 1

1
1Pa fodd y mae y ddinas aml ei phobl yn eistedd ei hunan! pa fodd y mae y luosog ymhlith y cenhedloedd megis yn weddw! pa fodd y mae tywysoges y taleithiau dan deyrnged! 2Y mae hi yn wylo yn hidl liw nos, ac y mae ei dagrau ar ei gruddiau, heb neb o’i holl gariadau yn ei chysuro: ei holl gyfeillion a fuant anghywir iddi, ac a aethant yn elynion iddi. 3Jwda a fudodd ymaith gan flinder, a chan faint caethiwed; y mae hi yn aros ymysg y cenhedloedd, heb gael gorffwystra: ei holl erlidwyr a’i goddiweddasant hi mewn lleoedd cyfyng. 4Y mae ffyrdd Seion yn galaru, o eisiau rhai yn dyfod i’r ŵyl arbennig: ei holl byrth hi sydd anghyfannedd, ei hoffeiriaid yn ucheneidio, ei morynion yn ofidus, a hithau yn flin arni. 5Ei gwrthwynebwyr ydynt bennaf, y mae ei gelynion yn ffynnu: canys yr Arglwydd a’i gofidiodd hi am amlder ei chamweddau: ei phlant a aethant i gaethiwed o flaen y gelyn. 6A holl harddwch merch Seion a ymadawodd â hi; y mae ei thywysogion hi fel hyddod heb gael porfa, ac yn myned yn ddi-nerth o flaen yr ymlidiwr. 7Y mae Jerwsalem, yn nyddiau ei blinder a’i chaledi, yn cofio ei holl hyfrydwch oedd iddi yn y dyddiau gynt, pan syrthiodd ei phobl hi yn llaw y gelyn, heb neb yn ei chynorthwyo hi: y gelynion a’i gwelsant hi, ac a chwarddasant am ben ei sabothau. 8Jerwsalem a bechodd bechod; am hynny y symudwyd hi: yr holl rai a’i hanrhydeddent sydd yn ei diystyru hi, oherwydd iddynt weled ei noethni hi: ie, y mae hi yn ucheneidio, ac yn troi yn ei hôl. 9Ei haflendid sydd yn ei godre, nid yw hi yn meddwl am ei diwedd; am hynny y syrthiodd hi yn rhyfedd, heb neb yn ei chysuro. Edrych, Arglwydd, ar fy mlinder; canys ymfawrygodd y gelyn. 10Y gwrthwynebwr a estynnodd ei law ar ei holl hoffbethau hi: hi a welodd y cenhedloedd yn dyfod i mewn i’w chysegr, i’r rhai y gorchmynasit ti na ddelent i’th gynulleidfa. 11Y mae ei holl bobl hi yn ucheneidio, yn ceisio bwyd: hwy a roddasant eu hoffbethau am fwyd i ddadebru yr enaid: edrych, Arglwydd, a gwêl; canys dirmygus ydwyf fi.
12Onid gwaeth gennych chwi, y fforddolion oll? gwelwch ac edrychwch, a oes y fath ofid â’m gofid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi, â’r hwn y gofidiodd yr Arglwydd fi yn nydd angerdd ei ddicter. 13O’r uchelder yr anfonodd efe dân i’m hesgyrn i, yr hwn a aeth yn drech na hwynt: efe a ledodd rwyd o flaen fy nhraed, ac a’m dychwelodd yn fy ôl; efe a’m gwnaeth yn anrheithiedig, ac yn ofidus ar hyd y dydd. 14Rhwymwyd iau fy nghamweddau â’i law ef: hwy a blethwyd, ac a ddaethant i fyny am fy ngwddf: efe a wnaeth i’m nerth syrthio; yr Arglwydd a’m rhoddodd mewn dwylo, oddi tan y rhai ni allaf gyfodi. 15Yr Arglwydd a fathrodd fy holl rai grymus o’m mewn; efe a gyhoeddodd i’m herbyn gymanfa, i ddifetha fy ngwŷr ieuainc: fel gwinwryf y sathrodd yr Arglwydd y forwyn, merch Jwda. 16Am hyn yr ydwyf yn wylo; y mae fy llygad, fy llygad, yn rhedeg gan ddwfr, oherwydd pellhau oddi wrthyf ddiddanwr a ddadebrai fy enaid: fy meibion sydd anrheithiedig, am i’r gelyn orchfygu. 17Seion a ledodd ei dwylo, heb neb yn ei diddanu: yr Arglwydd a orchmynnodd am Jacob, fod ei elynion yn ei gylch: Jerwsalem sydd fel gwraig fisglwyfus yn eu mysg hwynt.
18Cyfiawn yw yr Arglwydd; oblegid myfi a fûm anufudd i’w air ef: gwrandewch, atolwg, bobloedd oll, a gwelwch fy ngofid: fy morynion a’m gwŷr ieuainc a aethant i gaethiwed. 19Gelwais am fy nghariadau, a hwy a’m twyllasant; fy offeiriaid a’m hynafgwyr a drengasant yn y ddinas, tra oeddynt yn ceisio iddynt fwyd i ddadebru eu henaid. 20Gwêl, O Arglwydd; canys y mae yn gyfyng arnaf: fy ymysgaroedd a gyffroesant, fy nghalon a drodd ynof; oherwydd fy mod yn rhy anufudd: y mae y cleddyf yn difetha oddi allan, megis marwolaeth sydd gartref. 21Clywsant fy mod i yn ucheneidio: nid oes a’m diddano: fy holl elynion, pan glywsant fy nrygfyd, a lawenychasant am i ti wneuthur hynny: ond ti a ddygi i ben y dydd a gyhoeddaist, a hwy a fyddant fel finnau. 22Deued eu holl ddrygioni hwynt o’th flaen di; a gwna iddynt hwy fel y gwnaethost i minnau, am fy holl gamweddau: oblegid y mae fy ucheneidiau yn aml, a’m calon yn ofidus.

Currently Selected:

Galarnad 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy