YouVersion Logo
Search Icon

Jona 1

1
1A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jona mab Amitai, gan ddywedyd, 2Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron. 3A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr Arglwydd: ac efe a aeth i waered i Jopa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis, oddi gerbron yr Arglwydd.
4Ond yr Arglwydd a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong. 5Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i’r môr, i ymysgafnhau ohonynt: ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai. 6A meistr y llong a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy Dduw: fe allai yr ystyr y Duw hwnnw wrthym, fel na’n coller. 7A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a’r coelbren a syrthiodd ar Jona. 8A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti? 9Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir. 10A’r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr Arglwydd, oherwydd efe a fynegasai iddynt.
11A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrthym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu. 12Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i’r môr; a’r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi. 13Er hyn y gwŷr a rwyfasant i’w dychwelyd i dir; ond nis gallent: am fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy. 14Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd, a dywedasant, Atolwg, Arglwydd, atolwg, na ddifether ni am einioes y gŵr hwn, ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion: canys ti, O Arglwydd, a wnaethost fel y gwelaist yn dda. 15Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i’r môr: a pheidiodd y môr â’i gyffro. 16A’r gwŷr a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r Arglwydd, ac a addunasant addunedau.
17A’r Arglwydd a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.

Currently Selected:

Jona 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy