YouVersion Logo
Search Icon

Ioan 16

16
1Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi. 2Hwy a’ch bwriant chwi allan o’r synagogau: ac y mae’r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a’ch lladdo, ei fod yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. 3A’r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tad, na myfi. 4Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a’r pethau hyn ni ddywedais i chwi o’r dechreuad, am fy mod gyda chwi. 5Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a’m hanfonodd; ac nid yw neb ohonoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti’n myned? 6Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon. 7Ond yr wyf fi yn dywedyd gwirionedd i chwi; Buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid af fi, ni ddaw’r Diddanydd atoch; eithr os mi a af, mi a’i hanfonaf ef atoch. 8A phan ddêl, efe a argyhoedda’r byd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn: 9O bechod, am nad ydynt yn credu ynof fi: 10O gyfiawnder, am fy mod yn myned at fy Nhad, ac ni’m gwelwch i mwyach; 11O farn, oblegid tywysog y byd hwn a farnwyd. 12Y mae gennyf eto lawer o bethau i’w dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron. 13Ond pan ddêl efe, sef Ysbryd y gwirionedd, efe a’ch tywys chwi i bob gwirionedd: canys ni lefara ohono’i hun; ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe: a’r pethau sydd i ddyfod, a fynega efe i chwi. 14Efe a’m gogonedda i: canys efe a gymer o’r eiddof, ac a’i mynega i chwi. 15Yr holl bethau sydd eiddo’r Tad, ydynt eiddof fi: oherwydd hyn y dywedais, mai o’r eiddof fi y cymer, ac y mynega i chwi. 16Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: am fy mod yn myned at y Tad. 17Am hynny y dywedodd rhai o’i ddisgyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch: ac, Am fy mod yn myned at y Tad? 18Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd? ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd. 19Yna y gwybu’r Iesu eu bod hwy yn ewyllysio gofyn iddo; ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â’ch gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni’m gwelwch; a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a’m gwelwch? 20Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Chwi a wylwch ac a alerwch, a’r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion; ond eich tristwch a droir yn llawenydd. 21Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni’r plentyn, nid yw hi’n cofio’i gofid mwyach, gan lawenydd geni dyn i’r byd. 22A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a’ch calon a lawenycha, a’ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. 23A’r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a ofynnoch i’r Tad yn fy enw, efe a’u rhydd i chwi. 24Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch; fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. 25Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae’r awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tad. 26Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddïaf fi ar y Tad trosoch: 27Canys y Tad ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw. 28Mi a ddeuthum allan oddi wrth y Tad, ac a ddeuthum i’r byd: trachefn yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tad. 29Ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyt ti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd un ddameg. 30Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nid rhaid i ti ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod ohonot allan oddi wrth Dduw. 31Yr Iesu a’u hatebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu? 32Wele, y mae’r awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwasgerir chwi bob un at yr eiddo, ac y gadewch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegid y mae’r Tad gyda myfi. 33Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangnefedd ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymerwch gysur, myfi a orchfygais y byd.

Currently Selected:

Ioan 16: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy