YouVersion Logo
Search Icon

2 Pedr 1

1
1Simon Pedr, gwasanaethwr ac apostol Iesu Grist, at y rhai a gawsant gyffelyb werthfawr ffydd â ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a’n Hachubwr Iesu Grist: 2Gras i chwi a thangnefedd a amlhaer, trwy adnabod Duw, a Iesu ein Harglwydd ni, 3Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth a berthyn i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef yr hwn a’n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd: 4Trwy’r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn a gwerthfawr; fel trwy’r rhai hyn y byddech gyfranogion o’r duwiol anian, wedi dianc oddi wrth y llygredigaeth sydd yn y byd trwy drachwant. 5A hyn yma hefyd, gan roddi cwbl ddiwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd, rinwedd; ac at rinwedd, wybodaeth; 6Ac at wybodaeth, gymedrolder; ac at gymedrolder, amynedd; ac at amynedd, dduwioldeb; 7Ac at dduwioldeb, garedigrwydd brawdol; ac at garedigrwydd brawdol, gariad. 8Canys os yw’r pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na byddoch na segur na diffrwyth yng ngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grist. 9Oblegid yr hwn nid yw’r rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ymhell, wedi gollwng dros gof ei lanhau oddi wrth ei bechodau gynt. 10Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a’ch etholedigaeth yn sicr: canys, tra fyddoch yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth: 11Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a’n Hachubwr Iesu Grist. 12Oherwydd paham nid esgeulusaf eich coffáu bob amser am y pethau hyn, er eich bod yn eu gwybod, ac wedi eich sicrhau yn y gwirionedd presennol. 13Eithr yr ydwyf yn tybied fod yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gof i chwi; 14Gan wybod y bydd i mi ar frys roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ag yr hysbysodd ein Harglwydd Iesu Grist i mi. 15Ac mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ôl fy ymadawiad i, wneuthur coffa am y pethau hyn. 16Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys, yr hysbysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, eithr wedi gweled ei fawredd ef â’n llygaid. 17Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 18A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd. 19Ac y mae gennym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar gannwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio’r dydd, ac oni chodo’r seren ddydd yn eich calonnau chwi: 20Gan wybod hyn yn gyntaf, nad oes un broffwydoliaeth o’r ysgrythur o ddehongliad priod. 21Canys nid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glân.

Currently Selected:

2 Pedr 1: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy