YouVersion Logo
Search Icon

Galarnad 1

1
Galar Jerwsalem
1O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl!
Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw,
a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.
2Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos,
a dagrau ar ei gruddiau;
nid oes ganddi neb i'w chysuro
o blith ei holl gariadon;
y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu,
ac wedi troi'n elynion iddi.
3Aeth Jwda i gaethglud mewn trallod
ac mewn gorthrwm mawr;
y mae'n byw ymysg y cenhedloedd,
ond heb gael lle i orffwys;
y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddyd
yng nghanol ei gofidiau.
4Y mae ffyrdd Seion mewn galar
am nad oes neb yn dod i'r gwyliau;
y mae ei holl byrth yn anghyfannedd,
a'i hoffeiriaid yn griddfan;
y mae ei merched ifainc yn drallodus,
a hithau mewn chwerwder.
5Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni,
a llwyddodd ei gelynion,
oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arni
o achos amlder ei throseddau;
y mae ei phlant wedi mynd ymaith
yn gaethion o flaen y gelyn.
6Diflannodd y cyfan o'i hanrhydedd
oddi wrth ferch Seion;
y mae ei thywysogion fel ewigod
sy'n methu cael porfa;
y maent wedi ffoi, heb nerth,
o flaen yr erlidwyr.
7Yn nydd ei thrallod a'i chyni
y mae Jerwsalem yn cofio'r holl drysorau
oedd ganddi yn y dyddiau gynt.
Pan syrthiodd ei phobl i ddwylo'r gwrthwynebwyr,
heb neb i'w chynorthwyo,
edrychodd ei gwrthwynebwyr arni
a chwerthin o achos ei dinistr.
8Pechodd Jerwsalem yn erchyll;
am hynny fe aeth yn ffieidd-dra.
Y mae pawb oedd yn ei pharchu yn ei dirmygu
am iddynt weld ei noethni;
y mae hithau'n griddfan
ac yn troi draw.
9Yr oedd ei haflendid yng ngodre'i dillad;
nid ystyriodd ei thynged.
Yr oedd ei chwymp yn arswydus,
ac nid oedd neb i'w chysuro.
Edrych, O ARGLWYDD, ar fy nhrallod,
oherwydd y mae'r gelyn wedi gorchfygu.
10Estynnodd y gelyn ei law
i gymryd ei holl drysorau;
yn wir, gwelodd hi y cenhedloedd
yn dod i'w chysegr—
rhai yr oeddit ti wedi eu gwahardd
yn dod i mewn i'th gynulliad!
11Yr oedd ei phobl i gyd yn griddfan
wrth iddynt chwilio am fara;
yr oeddent yn cyfnewid eu trysorau am fwyd
i'w cynnal eu hunain.
Edrych, O ARGLWYDD, a gwêl,
oherwydd euthum yn ddirmyg.
12Onid yw hyn o bwys i chwi sy'n mynd heibio?
Edrychwch a gwelwch;
a oes gofid fel y gofid
a osodwyd yn drwm arnaf,
ac a ddygodd yr ARGLWYDD arnaf
yn nydd ei lid angerddol?
13Anfonodd dân o'r uchelder,
a threiddiodd i'm hesgyrn;
gosododd rwyd i'm traed,
a'm troi'n ôl;
gwnaeth fi yn ddiffaith
ac yn gystuddiol trwy'r dydd.
14Clymwyd fy nhroseddau amdanaf#1:14 Cymh. llawysgrifau a Fersiynau. TM, Clymwyd iau fy nhroseddau.;
plethwyd hwy â'i law ei hun;
gosododd ei iau#1:14 Cymh. Fersiynau. Hebraeg, daethant I fyny. ar fy ngwddf,
ac ysigodd fy nerth;
rhoddodd yr Arglwydd fi yng ngafael rhai
na allaf godi yn eu herbyn.
15Diystyrodd yr Arglwydd
yr holl ryfelwyr oedd ynof;
galwodd ar fyddin i ddod yn f'erbyn,
i ddifetha fy ngwŷr ifainc;
fel y sethrir grawnwin y sathrodd yr Arglwydd
y forwyn, merch Jwda.
16O achos hyn yr wyf yn wylo,
ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau,
oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuro
ac yn fy nghynnal;
y mae fy mhlant wedi eu hanrheithio
am fod y gelyn wedi gorchfygu.
17Estynnodd Seion ei dwylo,
ond nid oedd neb i'w chysuro;
gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynion
amgylchynu Jacob o bob cyfeiriad;
yr oedd Jerwsalem wedi mynd
yn ffieidd-dra yn eu mysg.
18Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn,
ond gwrthryfelais yn erbyn ei air.
Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd,
ac edrychwch ar fy nolur:
aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.
19Gelwais ar fy nghariadon,
ond y maent hwy wedi fy mradychu;
trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas,
wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.
20Edrych, O ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;
y mae f'ymysgaroedd mewn poen,
a'm calon wedi cyffroi,
oherwydd yr wyf wedi gwrthryfela i'r eithaf.
O'r tu allan, y mae'r cleddyf wedi gwneud rhai'n amddifad;
yn y tŷ, nid oes dim ond marwolaeth.
21Gwrandewch pan wyf yn griddfan,
heb neb i'm cysuro.
Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb,
a llawenhau am iti wneud hyn;
ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist,
a byddant hwythau fel finnau.
22Gad i'w holl ddrygioni ddod i'th sylw,
a dwg gosb arnynt,
fel y cosbaist fi am fy holl droseddau;
oherwydd y mae fy ngriddfannau'n aml,
a'm calon yn gystuddiol.

Currently Selected:

Galarnad 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy