YouVersion Logo
Search Icon

Job 1

1
Satan yn Profi Job
1Yr oedd gŵr yng ngwlad Us o'r enw Job, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg. 2Ganwyd iddo saith mab a thair merch, 3ac yr oedd ganddo saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum can iau o ychen, pum cant o asennod, a llawer iawn o weision. Y gŵr hwn oedd y mwyaf o holl bobl y Dwyrain.
4Arferai ei feibion fynd i gartrefi ei gilydd i gynnal gwledd, pob un yn ei dro, ac anfonent wahoddiad i'w tair chwaer i fwyta ac yfed gyda hwy. 5Yna pan ddôi cylch y gwledda i ben, anfonai Job amdanynt i'w puro; codai'n fore i offrymu poethoffrymau, un dros bob un ohonynt, oherwydd meddyliai, “Efallai fod fy meibion wedi pechu a melltithio Duw yn eu calonnau.” Fel hyn y gwnâi Job yn gyson.
6Daeth y dydd i'r bodau nefol#1:6 Neu, i feibion Duw. ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan#1:6 H.y., Y Gwrthwynebwr. hefyd gyda hwy. 7Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “O ble y daethost ti?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti.” 8Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “A sylwaist ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.” 9Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Ai'n ddiachos y mae Job yn ofni Duw? 10Oni warchodaist drosto ef a'i deulu a'i holl eiddo? Bendithiaist ei waith, a chynyddodd ei dda yn y tir. 11Ond estyn di dy law i gyffwrdd â dim o'i eiddo; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.” 12Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Wele'r cyfan sydd ganddo yn dy law di, ond iti beidio â chyffwrdd ag ef ei hun.” Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD.
Job yn Colli ei Blant a'i Gyfoeth
13Un diwrnod, pan oedd ei feibion a'i ferched yn bwyta ac yn yfed yn nhŷ eu brawd hynaf, 14daeth cennad at Job a dweud, “Pan oedd yr ychen yn aredig a'r asennod yn pori gerllaw, 15daeth y Sabeaid ar eu gwarthaf a'u cipio, a tharo'r gweision â chleddyf; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.” 16Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Disgynnodd tân mawr o'r nefoedd ac ysu'r defaid a'r gweision a'u difa'n llwyr, a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.” 17Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Daeth y Caldeaid yn dair mintai, ac ymosod ar y camelod a'u cipio, a tharo'r gweision â chleddyf, a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.” 18Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Yr oedd dy feibion a'th ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf, 19a daeth gwynt nerthol dros yr anialwch a tharo pedair congl y tŷ, a syrthiodd ar y bobl ifainc, a buont farw; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”
20Yna cododd Job a rhwygodd ei fantell, eilliodd ei ben, a syrthiodd ar y ddaear ac ymgrymu 21a dweud,
“Yn noeth y deuthum o groth fy mam, ac yn noeth y dychwelaf yno.
Yr ARGLWYDD a roddodd, a'r ARGLWYDD a ddygodd ymaith.
Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD.”
22Yn hyn i gyd ni phechodd Job, na gweld bai ar Dduw.

Currently Selected:

Job 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy