YouVersion Logo
Search Icon

Judith 1

1
Rhyfel rhwng Nebuchadnesar ac Arffaxad
1Yr oedd y Brenin Nebuchadnesar yn neuddegfed flwyddyn ei deyrnasiad ar yr Asyriaid yn Ninefe, y ddinas fawr. 2Yn y dyddiau hynny, Arffaxad oedd yn teyrnasu ar y Mediaid yn Ecbatana, a chododd hwn furiau o gerrig nadd o amgylch Ecbatana. Yr oedd y cerrig yn dri chufydd o led a chwe chufydd o hyd, ac uchder y muriau a gododd oedd deg cufydd a thrigain, a'u lled yn hanner can cufydd. 3Gosododd wrth byrth y ddinas dyrau can cufydd o uchder, a'u sylfeini'n drigain cufydd o led; 4gwnaeth byrth hefyd a oedd yn codi i uchder o ddeg cufydd a thrigain, ac yn ddeugain cufydd o led, er mwyn i'w holl luoedd gychwyn allan mewn nerth, gyda'i wŷr traed yn eu rhengoedd. 5Yn y dyddiau hynny, rhyfelodd y Brenin Nebuchadnesar yn erbyn y Brenin Arffaxad yn y gwastatir mawr, sef yr un sydd ar ffiniau Ragau. 6Daeth i'w gyfarfod holl drigolion yr ucheldiroedd a phawb a drigai ar lannau afonydd Ewffrates, Tigris a Hydaspes, ac yn y gwastatir oedd yn eiddo i Arioch brenin Elam; ac ymunodd llawer o lwythau o feibion Chelewd â'r rheng ymladd.
7Anfonodd Nebuchadnesar brenin yr Asyriaid at holl drigolion Persia ac at holl drigolion y gorllewin: preswylwyr Cilicia a Damascus, Lebanon ac Antilibanon, holl drigolion yr arfordir; 8pobloedd ardal Carmel a Gilead, Galilea Uchaf a gwastatir eang Esdraelon; 9pawb yn Samaria a'i threfi, ac i'r gorllewin o'r Iorddonen cyn belled â Jerwsalem, Batane, Chelws, Cades ac afon yr Aifft; trigolion Taffnes, Rameses a holl wlad Gosen 10cyn belled â Tanis a Memffis; a holl drigolion yr Aifft hyd at ffiniau Ethiopia. 11Ond diystyrodd pawb o drigolion yr holl ranbarth neges Nebuchadnesar brenin Asyria, gan wrthod ymuno ag ef i ryfela. Nid oedd arnynt ei ofn; yn wir, nid oedd ef namyn un dyn yn eu golwg; anfonasant ei genhadau yn eu hôl yn waglaw ac yn waradwyddus. 12Gwnaeth hyn Nebuchadnesar yn dra chynddeiriog tuag at yr holl ranbarth hwnnw, a thyngodd i'w orsedd a'i frenhiniaeth y byddai'n siŵr o ddial ar holl diriogaethau Cilicia, Damascus a Syria, a hefyd yn lladd â'r cleddyf holl drigolion gwlad Moab, yr Ammoniaid a holl Jwdea, a holl bobl yr Aifft hyd at derfynau'r ddau fôr.
13Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg anfonodd ei fyddin i ryfela yn erbyn y Brenin Arffaxad; bu'n fuddugoliaethus yn y frwydr a gyrru byddin Arffaxad ar ffo, ynghyd â'i holl wŷr meirch a'i holl gerbydau. 14Meddiannodd ei ddinasoedd, ac wedi cyrraedd Ecbatana, goresgynnodd ei thyrau ac ysbeilio'i heolydd llydan, gan droi ysblander y ddinas yn waradwydd llwyr. 15Daliodd Arffaxad ym mynyddoedd Ragau, trywanodd ef â'i bicellau, a'i lwyr ddifodi unwaith ac am byth. 16Yna, dychwelsant i Ninefe, ef a'i fintai gymysg, yn llu enfawr o filwyr. Yno bu'n gorffwys a gwledda gyda'i fyddin am gant ac ugain o ddyddiau.

Currently Selected:

Judith 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy