YouVersion Logo
Search Icon

2 Macabeaid 1

1
Y Llythyr Cyntaf at yr Iddewon yn yr Aifft
1“At eu cyd-genedl, Iddewon yr Aifft, oddi wrth eu cyd-genedl, Iddewon Jerwsalem a gwlad Jwdea, cyfarchion a thangnefedd helaeth. 2Bydded i Dduw eich llesáu chwi, a chadw mewn cof ei gyfamod â'i weision ffyddlon, Abraham, Isaac a Jacob; 3a bydded iddo osod bryd pob un ohonoch ar ei addoli ac ar wneud ei ewyllys yn frwdfrydig ac o wirfodd calon. 4Bydded iddo agor eich calonnau i'w gyfraith a'i orchmynion, a rhoi ichwi dangnefedd, 5gan ateb eich deisyfiadau ac ymgymodi â chwi a pheidio â'ch gadael yn amddifad yn amser adfyd. 6Yr awr hon, yn y lle hwn, yr ydym yn gweddïo drosoch chwi. 7Yr ydym ni'r Iddewon eisoes wedi ysgrifennu atoch yn y flwyddyn 169#1:7 H.y., 143 C.C., pan oedd Demetrius yn teyrnasu, yng nghyfnod anterth yr erledigaeth a ddaeth arnom yn y blynyddoedd hynny wedi i Jason a'i ddilynwyr gefnu ar achos y wlad sanctaidd a'r deyrnas, 8a gosod cyntedd y deml ar dân a thywallt gwaed dieuog. Yna deisyfasom ar yr Arglwydd, ac atebwyd ein gweddi. Offrymasom aberth a blawd gwenith, a chynnau'r lampau a gosod y torthau cysegredig. 9Ac yn awr yr ydych chwi i ddathlu dyddiau Gŵyl y Pebyll ym mis Cislef. Dyddiedig y flwyddyn 188#1:9 H.y., 124 C.C..”
Yr Ail Lythyr, at Aristobwlus
10“Pobl Jerwsalem a Jwdea, y senedd a Jwdas, at Aristobwlus, athro'r Brenin Ptolemeus ac aelod o linach yr offeiriaid eneiniog, ac at Iddewon yr Aifft, cyfarchion ac iechyd i chwi. 11Mawr yw'r peryglon yr achubwyd ni rhagddynt gan Dduw, a mawr yw ein diolch iddo, fel byddin y mae ei rhengoedd yn barod i wrthsefyll y brenin. 12Ef a fwriodd allan y fyddin oedd yn barod i ymosod ar y ddinas sanctaidd. 13Oherwydd pan aeth eu cadfridog i Persia gyda byddin a oedd i bob golwg yn anorchfygol, fe'u torrwyd yn ddarnau yn nheml Nanaia trwy weithred ystrywgar offeiriaid Nanaia. 14Daeth Antiochus gyda'i Gyfeillion i'r deml i briodi'r dduwies, er mwyn cymryd ei chyfoeth enfawr fel gwaddol. 15Dangosodd offeiriaid teml Nanaia y trysor iddo, ac aeth ef gydag ychydig o ddilynwyr i mewn trwy'r mur oedd o amgylch y fangre. Cyn gynted ag y daeth Antiochus i mewn i'r cysegr, clodd yr offeiriaid y dorau 16ac agor drws cudd yn un o baneli'r nenfwd, a bwrw arnynt gawod o gerrig. Wedi llorio'r cadfridog fel un a drawyd gan fellten, aethant ati i'w darnio a thorri eu pennau i ffwrdd a'u lluchio i'r bobl y tu allan. 17Bendigedig fyddo ein Duw ym mhob peth, yr hwn a draddododd yr halogwyr i farwolaeth! 18Gan ei bod yn fwriad gennym ddathlu puro'r deml ar y pumed dydd ar hugain o fis Cislef, barnasom mai priodol fyddai eich hysbysu, er mwyn i chwithau ddathlu Gŵyl y Pebyll a chofio'r tân a losgodd pan offrymwyd aberthau gan Nehemeia, adeiladydd y deml a'r allor hefyd. 19Oherwydd pan ddygwyd ein hynafiaid ymaith i Persia, cymerodd offeiriaid duwiol y cyfnod hwnnw dân oddi ar yr allor a'i guddio'n ddirgel yng ngheudod ffynnon oedd wedi sychu. Fe'i cadwasant ef yno mor ddiogel fel na wyddai neb am y fan. 20Flynyddoedd lawer wedyn, pan benderfynodd Duw hynny, anfonwyd Nehemeia'n ôl gan frenin Persia, a gyrrodd yntau ddisgynyddion yr offeiriaid oedd wedi cuddio'r tân i'w gyrchu'n ôl. Ac wedi iddynt hwy egluro inni nad tân y cawsant hyd iddo, ond hylif trwchus, gorchmynnodd ef iddynt godi peth ohono a'i ddwyn ato. 21Wedi cyflwyno defnyddiau'r aberthau, gorchmynnodd Nehemeia i'r offeiriaid daenellu'r hylif dros y coed a'r hyn oedd yn gorwedd arno. 22Gwnaethpwyd hyn, ac aeth peth amser heibio. Yna disgleiriodd yr haul, a fu dan gwmwl cynt, a ffaglodd tân anferth ar yr allor er rhyfeddod i bawb. 23A thra oedd yr aberth yn llosgi'n ulw, aeth yr offeiriaid i weddi, yr offeiriaid ynghyd â phawb arall, gyda Jonathan yn arwain a'r gweddill yn ateb gan ddilyn Nehemeia. 24A dyma ffurf y weddi: ‘O Arglwydd, Arglwydd Dduw, Creawdwr pob peth, yr hwn sydd yn ofnadwy a nerthol, yn gyfiawn a thrugarog, tydi yw'r unig frenin, yr unig un tirion, 25yr unig ddarparwr; tydi'n unig sy'n gyfiawn a hollalluog a thragwyddol; tydi sy'n achub Israel rhag pob perygl; tydi a wnaeth ein hynafiad yn etholedig a'u cysegru. 26Derbyn yr aberth hwn dros dy holl bobl Israel, gwarchod yr eiddot dy hun a chysegra hwy'n llwyr. 27Cynnull ynghyd ein pobl ar wasgar, rhyddha'r rheini sy'n gaethweision ymhlith y Cenhedloedd, edrych yn dirion ar y rheini sy'n cael eu dirmygu a'u ffieiddio, fel y caiff y Cenhedloedd wybod mai tydi yw ein Duw. 28Rho boenau arteithiol yn gosb ar y rhai sy'n ein gormesu a'n cam-drin yn drahaus. 29Gwreiddia dy bobl yn dy fangre sanctaidd, fel y dywedodd Moses.’ ”
30“Yna canodd yr offeiriaid yr emynau. 31Wedi llwyr losgi'r aberthau, gorchmynnodd Nehemeia fod yr hylif oedd yn weddill hefyd i'w arllwys dros gerrig mawr. 32Pan wnaethpwyd hynny, dyma fflam yn ffaglu; ond aeth ei llewyrch yn ddim wrth ddisgleirdeb y goleuni oddi ar yr allor. 33Daeth y digwyddiad hwn yn hysbys, ac mewn adroddiad i frenin y Persiaid dywedwyd i'r hylif ymddangos yn y man lle cuddiwyd y tân gan yr offeiriaid a gaethgludwyd, ac i Nehemeia a'i ddilynwyr ei ddefnyddio i buro'r aberthau. 34Wedi iddo archwilio'r mater, cododd y brenin fur o amgylch y llecyn a'i gysegru. 35Yr oedd y rhai a ffafriwyd ganddo â gofal y lle yn cael rhan o'r incwm helaeth a dderbyniai oddi yno. 36Galwodd Nehemeia a'i ddilynwyr yr hylif yn ‘neffthar’, sy'n golygu ‘puredigaeth’, ond ei enw cyffredin yw ‘nafftha’.”

Currently Selected:

2 Macabeaid 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy