YouVersion Logo
Search Icon

2 Ioan 1

1
Cyfarch
1Yr henuriad at yr arglwyddes etholedig a'i phlant. Yr wyf fi, ac nid myfi yn unig, ond pawb sydd wedi dod i wybod y gwirionedd, yn eich caru yn y gwirionedd, 2er mwyn y gwirionedd sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni am byth. 3Bydd gras, trugaredd a thangnefedd gyda ni, oddi wrth Dduw y Tad ac oddi wrth Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad.
Aros yn Nysgeidiaeth Crist
4Bu'n llawenydd mawr i mi gael rhai o'th blant di yn rhodio yn y gwirionedd, fel y cawsom orchymyn gan y Tad. 5Ac yn awr yr wyf yn erfyn arnat, arglwyddes, ond nid fel un yn ysgrifennu iti orchymyn newydd; gorchymyn a oedd gennym o'r dechrau ydyw, sef ein bod i garu ein gilydd. 6A hyn yw cariad: ein bod yn rhodio yn ôl ei orchmynion ef. A'r gorchymyn hwn, fel y clywsoch o'r dechreuad, yw eich bod i rodio mewn cariad. 7Oherwydd aeth twyllwyr lawer allan i'r byd, y rhai nad ydynt yn cyffesu bod Iesu Grist wedi dod yn y cnawd; dyma'r twyllwr a'r Anghrist. 8Gwyliwch eich hunain, rhag ichwi golli ffrwyth ein#1:8 Yn ôl darlleniad arall, eich. llafur, ond derbyn eich gwobr yn gyflawn. 9Pob un sy'n mynd rhagddo heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo; y sawl sydd yn aros yn y ddysgeidiaeth, y mae'r Tad a'r Mab ganddo. 10Os daw rhywun atoch heb ddod â'r ddysgeidiaeth hon, peidiwch â'i dderbyn i'ch tŷ na'i gyfarch ef, 11oherwydd y mae'r sawl sy'n ei gyfarch yn gyfrannog o'i weithredoedd drygionus.
Cyfarchion Terfynol
12Er bod gennyf lawer o bethau i'w hysgrifennu atoch, gwell gennyf beidio â'u hysgrifennu â phapur ac inc; rwy'n gobeithio dod atoch, a siarad â chwi wyneb yn wyneb, ac yna bydd ein llawenydd yn gyflawn. 13Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy gyfarch di.

Currently Selected:

2 Ioan 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy