YouVersion Logo
Search Icon

1 Corinthiaid 1

1
Cyfarch a Diolch
1Paul, apostol Crist Iesu trwy alwad a thrwy ewyllys Duw, a'r brawd Sosthenes, 2at eglwys Dduw sydd yng Nghorinth, at y rhai a sancteiddiwyd yng Nghrist Iesu, ac sydd trwy alwad Duw yn saint, ynghyd â phawb ym mhob man sydd yn galw ar enw ein Harglwydd Iesu Grist, eu Harglwydd hwy a ninnau. 3Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a'r Arglwydd Iesu Grist.
4Yr wyf yn diolch i'm Duw bob amser amdanoch chwi, ar gyfrif y gras dwyfol a roddwyd ichwi yng Nghrist Iesu, 5am eich cyfoethogi ynddo ef ym mhob peth, ym mhob ymadrodd a phob gwybodaeth, 6fel bod y dystiolaeth am Grist wedi ei chadarnhau yn eich plith. 7Oherwydd hyn, nid ydych yn ddiffygiol mewn unrhyw ddawn, wrth ichwi ddisgwyl am ddatguddiad ein Harglwydd Iesu Grist. 8Bydd ef yn eich cadw'n gadarn hyd y diwedd, fel na bydd cyhuddiad yn eich erbyn yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist. 9Y mae Duw'n ffyddlon, a thrwyddo ef y'ch galwyd chwi i gymdeithas ei Fab ef, Iesu Grist ein Harglwydd ni.
Ymraniadau yn yr Eglwys
10Yr wyf yn deisyf arnoch, gyfeillion, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, ar i chwi oll fod yn gytûn; na foed ymraniadau yn eich plith, ond byddwch wedi eich cyfannu yn yr un meddwl a'r un farn. 11Oherwydd hysbyswyd fi amdanoch, fy nghyfeillion, gan rai o dŷ Chlöe, fod cynhennau yn eich plith. 12Yr hyn a olygaf yw fod pob un ohonoch yn dweud, “Yr wyf fi'n perthyn i blaid Paul”, neu, “Minnau, i blaid Apolos”, neu, “Minnau, i blaid Ceffas”, neu, “Minnau, i blaid Crist”. 13A aeth Crist yn gyfran plaid? Ai Paul a groeshoeliwyd drosoch chwi? Neu, a fedyddiwyd chwi i enw Paul? 14Yr wyf yn diolch i Dduw#1:14 Yn ôl darlleniad arall, yn ddiolchgar. na fedyddiais i neb ohonoch ond Crispus a Gaius; 15peidied neb â dweud i chwi gael eich bedyddio i'm henw i. 16O do, mi fedyddiais deulu Steffanas hefyd. Heblaw hynny, ni wn a fedyddiais i neb arall. 17Nid i fedyddio yr anfonodd Crist fi, ond i bregethu'r Efengyl, a hynny nid â doethineb geiriau, rhag i groes Crist golli ei grym.
Crist, Gallu a Doethineb Duw
18Oblegid y gair am y groes, ffolineb yw i'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth, ond i ni sydd ar lwybr iachawdwriaeth, gallu Duw ydyw. 19Y mae'n ysgrifenedig:
“Dinistriaf ddoethineb y doethion,
A dileaf ddeall y deallus.”
20Pa le y mae'r un doeth? Pa le y mae'r un dysgedig? Pa le y mae ymresymydd yr oes bresennol? Oni wnaeth Duw ddoethineb y byd yn ffolineb? 21Oherwydd gan fod y byd, yn noethineb Duw, wedi methu adnabod Duw trwy ei ddoethineb ei hun, gwelodd Duw yn dda trwy ffolineb yr hyn yr ydym ni yn ei bregethu achub y rhai sydd yn credu. 22Y mae'r Iddewon yn gofyn am arwyddion, a'r Groegiaid hwythau yn chwilio am ddoethineb. 23Eithr nyni, pregethu yr ydym Grist wedi ei groeshoelio, yn dramgwydd i'r Iddewon ac yn ffolineb i'r Cenhedloedd; 24ond i'r rhai a alwyd, yn Iddewon a Groegiaid, y mae'n Grist, gallu Duw a doethineb Duw. 25Oherwydd y mae ffolineb Duw yn ddoethach na doethineb ddynol, a gwendid Duw yn gryfach na chryfder dynol.
26Ystyriwch sut rai ydych chwi a alwyd, gyfeillion: nid oes rhyw lawer ohonoch yn ddoeth yn ôl safon y byd, nid oes rhyw lawer yn meddu awdurdod, nid oes rhyw lawer o dras uchel. 27Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio'r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio'r pethau cedyrn, 28a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu'r pethau sydd. 29Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw. 30Ond trwy ei weithred ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad a phrynedigaeth. 31Felly, fel y mae'n ysgrifenedig, “Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.”

Currently Selected:

1 Corinthiaid 1: BCNDA

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy