1 Corinthiaid 10

10
A.D. 59. —
1 Bod sacramentau yr Iddewon 6 yn gysgodau i ni, 7 a’u cosbedigaethau hwy 11 yn siamplau i ni. 14 Rhaid i ni ochelyd gau‐dduwiaeth. 21 Na ddylem ni wneuthur bwrdd yr Arglwydd yn fwrdd cythreuliaid: 24 ac y dylem, mewn pethau cyffredin, ystyried ein brodyr.
1Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, fod ein tadau #Exod 13:21; Num 9:18; Deut 1:33; Neh 9:12, 19; Salm 78:14oll dan y cwmwl, a’u myned #Exod 14:22; Jos 4:23oll trwy y môr; 2A’u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr; 3A bwyta o bawb ohonynt yr un bwyd #Exod 16:15ysbrydol; 4Ac yfed o bawb ohonynt yr un ddiod #Exod 17:6; Num 20:11ysbrydol: canys hwy a yfasant o’r Graig ysbrydol a #10:4 aeth gyda hwynt, Deut 9:21; Salm 105:41 oedd yn canlyn: a’r Graig oedd Crist. 5Eithr ni bu Dduw fodlon #10:5 i lawer.i’r rhan fwyaf ohonynt: canys #Num 26:64, 65cwympwyd hwynt yn y diffeithwch. 6A’r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwenychem ddrygioni, megis ag #Num 11:4, 33; Salm 106:14y chwenychasant hwy. 7Ac na fyddwch eilun‐addolwyr, megis rhai ohonynt hwy; fel y mae yn ysgrifenedig, #Exod 32:6Eisteddodd y bobl i fwyta ac i yfed, ac a gyfodasant i chwarae. 8Ac na odinebwn, fel y godinebodd #Num 25:1, 2, 9rhai ohonynt hwy, ac y syrthiodd mewn un dydd dair mil ar hugain. 9Ac na themtiwn Grist, megis ag y temtiodd #Exod 17:2, 7; Num 21:5; Salm 78:18, 56; 95:9rhai ohonynt hwy, ac a’u #Num 21:6distrywiwyd gan seirff. 10Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd #Num 14:2, 29; 16:41rhai ohonynt hwy, ac a’u #Num 14:37distrywiwyd gan y dinistrydd. 11A’r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy; ac #Rhuf 15:4; Pen 9:10a ysgrifennwyd yn rhybudd i ninnau, #Phil 4:5; Heb 10:25ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. 12Am hynny, #Rhuf 11:20yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. 13Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, ond un dynol: eithr #Pen 1:9ffyddlon yw Duw, #Salm 125:3; 2 Pedr 2:9yr hwn ni ad eich temtio uwchlaw yr hyn a alloch; eithr #Jer 29:11a wna ynghyd â’r temtasiwn ddihangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn. 14Oherwydd paham, fy anwylyd, #2 Cor 6:17; 1 Ioan 5:21ffowch oddi wrth eilun‐addoliaeth. 15Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedyd. 16#Mat 26:26Ffiol y fendith, yr hon a fendigwn, onid cymun gwaed Crist ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymun corff Crist yw? 17Oblegid #Rhuf 12:5; Pen 12:27nyni yn llawer ydym un bara, ac un corff: canys yr ydym ni oll yn gyfranogion o’r un bara. 18Edrychwch ar #Rhuf 4:12; Gal 6:16yr Israel yn ôl y cnawd: #Lef 3:3; 7:15onid yw’r rhai sydd yn bwyta’r ebyrth, yn gyfranogion o’r allor? 19Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? #Pen 8:4bod yr eilun yn ddim, neu’r hyn a aberthwyd i eilun yn ddim? 20Ond y pethau y mae’r Cenhedloedd yn eu #Lef 17:7haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fod yn gyfranogion â’r cythreuliaid. 21#2 Cor 6:15Ni ellwch yfed o ffiol yr Arglwydd, a #Deut 32:38ffiol y cythreuliaid: ni ellwch fod yn gyfranogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid. 22Ai #Deut 32:21gyrru’r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? #Esec 22:14a ydym ni yn gryfach nag ef? 23#Pen 6:12Pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn llesáu: pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu. 24#Rhuf 15:1, 2; Pen 13:5; Phil 2:4, 21Na cheisied neb yr eiddo ei hun; ond pob un #10:24 fudd.yr eiddo arall. 25Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch; heb ofyn dim er mwyn cydwybod: 26Canys #Exod 19:5; Deut 10:14; Salm 24:1; 50:12; Ad. 28eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 27Os bydd i neb o’r rhai di‐gred eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; #Luc 10:7bwytewch beth bynnag a rodder ger eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod. 28Eithr os dywed neb wrthych, Peth wedi ei aberthu i eilunod yw hwn; na fwytewch, #Pen 8:10, 12er mwyn hwnnw yr hwn a’i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: #Ad. 26canys eiddo’r Arglwydd y ddaear, a’i chyflawnder. 29Cydwybod, meddaf, nid yr eiddot ti, ond yr eiddo arall: canys #Rhuf 14:16paham y bernir fy rhyddid i gan gydwybod un arall? 30Ac os wyf fi trwy #10:30 ddiolch.ras yn cymryd cyfran, paham y’m ceblir #1 Tim 4:3, 4am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano? 31#Col 3:17Pa un bynnag gan hynny ai bwyta ai yfed, ai beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. 32#Rhuf 14:13; 2 Cor 6:3Byddwch ddiachos tramgwydd i’r Iddewon ac i’r #10:32 Gr. Groegiaid.Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw: 33Megis #Rhuf 15:2; Pen 9:19, 22yr ydwyf finnau yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth: heb geisio fy llesâd fy hun, ond llesâd llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.

Valgt i Øjeblikket:

1 Corinthiaid 10: BWM1955C

Markering

Kopiér

Sammenlign

Del

None

Vil du have dine markeringer gemt på tværs af alle dine enheder? Tilmeld dig eller log ind