Salm 59:16-17
Salm 59:16-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond bydda i’n canu am dy rym di, ac yn gweiddi’n llawen bob bore am dy fod mor ffyddlon! Rwyt ti’n graig saff i mi, ac yn lle i mi guddio pan dw i mewn trafferthion. Ti ydy fy nerth i, a dw i am ganu mawl i ti! O Dduw, rwyt fel craig ddiogel i mi – y Duw ffyddlon.
Rhanna
Darllen Salm 59Salm 59:16-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond canaf fi am dy nerth, a gorfoleddu yn y bore am dy ffyddlondeb; oherwydd buost yn amddiffynfa i mi ac yn noddfa yn nydd fy nghyfyngder. O fy Nerth, canaf fawl i ti, oherwydd Duw yw f'amddiffynfa, fy Nuw trugarog.
Rhanna
Darllen Salm 59Salm 59:16-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Minnau a ganaf am dy nerth, ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf. I ti, fy nerth, y canaf; canys DUW yw fy amddiffynfa, a DUW fy nhrugaredd.
Rhanna
Darllen Salm 59