Salm 37:3-6
Salm 37:3-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Trystia’r ARGLWYDD a gwna beth sy’n dda. Setla i lawr yn y tir a mwynhau ei ffyddlondeb. Ceisia ffafr yr ARGLWYDD bob amser, a bydd e’n rhoi i ti bopeth rwyt ti eisiau. Rho dy hun yn nwylo’r ARGLWYDD a’i drystio fe; bydd e’n gweithredu ar dy ran di. Bydd e’n achub dy gam di o flaen pawb. Bydd y ffaith fod dy achos yn gyfiawn mor amlwg â’r haul ganol dydd.
Salm 37:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni, iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel. Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon. Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD; ymddiried ynddo, ac fe weithreda. Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni a'th uniondeb fel haul canol dydd.
Salm 37:3-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gobeithia yn yr ARGLWYDD, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. Ymddigrifa hefyd yn yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. Treigla dy ffordd ar yr ARGLWYDD, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd.