Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Iago 1:25 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Iago 1:25 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ond mae’r un sy’n dal ati i edrych yn fanwl ar ddysgeidiaeth berffaith y Duw sy’n ein gollwng ni’n rhydd yn wahanol. Dydy’r sawl sy’n gwneud hynny ddim yn anghofio beth mae wedi’i glywed; mae’n gwneud beth sydd ei angen. A bydd Duw yn bendithio popeth mae’n ei wneud!

Iago 1:25 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond am y sawl a roes sylw dyfal i berffaith gyfraith rhyddid ac a ddaliodd ati, a dod yn weithredwr ei gofynion, ac nid yn wrandawr anghofus, bydd hwnnw yn ddedwydd yn ei weithredoedd.

Iago 1:25 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid, ac a barhao ynddi, hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond gwneuthurwr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithred.