Hebreaid 12:3-11
Hebreaid 12:3-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Meddyliwch sut wnaeth e ddiodde’r holl wrthwynebiad gan bechaduriaid – wnewch chi wedyn ddim colli plwc a digalonni. Wedi’r cwbl dych chi ddim eto wedi gorfod colli gwaed wrth wneud safiad yn erbyn pechod! Ydych chi wedi anghofio anogaeth Duw i chi fel ei blant?: “Fy mhlentyn, paid diystyru disgyblaeth yr Arglwydd, na thorri dy galon pan fydd yn dy gywiro di, achos mae’r Arglwydd yn disgyblu’r rhai mae’n eu caru, ac yn cosbi pob un o’i blant.” Cymerwch y dioddef fel disgyblaeth. Mae Duw’n eich trin chi fel ei blant. Pwy glywodd am blentyn sydd ddim yn cael ei ddisgyblu gan ei rieni? Os dych chi ddim yn cael eich disgyblu allwch chi ddim bod yn blant go iawn iddo – mae pob plentyn wedi cael ei ddisgyblu rywbryd! Pan oedd ein rhieni’n ein disgyblu ni, roedden ni’n eu parchu nhw. Felly oni ddylen ni wrando fwy fyth ar ein Tad ysbrydol, i ni gael byw? Roedd ein rhieni’n ein disgyblu ni dros dro fel roedden nhw’n gweld orau, ond mae disgyblaeth Duw yn siŵr o wneud lles i ni bob amser, i’n gwneud ni’n debycach iddo fe’i hun. Dydy disgyblaeth byth yn bleserus ar y pryd (mae’n boenus!) – ond yn nes ymlaen dŷn ni’n gweld ei fod yn beth da. Ac mae’r rhai sydd wedi dysgu drwyddo yn dod yn bobl sy’n gwneud beth sy’n iawn ac yn profi heddwch dwfn.
Hebreaid 12:3-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddyliwch amdano ef, a oddefodd y fath elyniaeth ato'i hun gan bechaduriaid, rhag i chwi flino neu ddigalonni. Hyd yma, nid ydych wedi gwrthwynebu hyd at waed yn y frwydr yn erbyn pechod, ac yr ydych wedi anghofio'r anogaeth sy'n eich annerch fel plant: “Fy mhlentyn, paid â dirmygu disgyblaeth yr Arglwydd, a phaid â digalonni pan gei dy geryddu ganddo; oherwydd y mae'r Arglwydd yn disgyblu'r sawl y mae'n ei garu, ac yn fflangellu pob un y mae'n ei arddel.” Goddefwch y cwbl er mwyn disgyblaeth; y mae Duw yn eich trin fel plant. Canys pa blentyn sydd nad yw ei dad yn ei ddisgyblu? Ac os ydych heb y ddisgyblaeth y mae pob un yn gyfrannog ohoni, yna bastardiaid ydych, ac nid plant cyfreithlon. Mwy na hynny, yr oedd gennym rieni daearol i'n disgyblu, ac yr oeddem yn eu parchu hwy. Oni ddylem, yn fwy o lawer, ymddarostwng i'n Tad ysbrydol, a chael byw? Yr oedd ein rhieni yn disgyblu am gyfnod byr, fel yr oeddent hwy'n gweld yn dda; ond y mae ef yn gwneud hynny er ein lles, er mwyn inni allu cyfranogi o'i sancteiddrwydd ef. Nid yw unrhyw ddisgyblaeth, yn wir, ar y pryd yn ymddangos yn bleserus, ond yn hytrach yn boenus; ond yn nes ymlaen, y mae'n dwyn heddychol gynhaeaf cyfiawnder i'r rhai sydd wedi eu hyfforddi ganddi.
Hebreaid 12:3-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod. A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo: Canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu, y mae’n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio. Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? Eithr os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw? Canys hwynt-hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef. Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef.