Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Deuteronomium 23:21 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Deuteronomium 23:21 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Pan fyddwch chi’n gwneud adduned i’r ARGLWYDD eich Duw, peidiwch oedi cyn ei chyflawni, neu byddwch chi’n cael eich dal yn gyfrifol ganddo.

Deuteronomium 23:21 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Os byddi'n gwneud adduned i'r ARGLWYDD dy Dduw, paid ag oedi cyn ei chyflawni; bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn sicr o'i hawlio gennyt, a byddi dithau yn euog o bechod.

Deuteronomium 23:21 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Pan addunedych adduned i’r ARGLWYDD dy DDUW, nac oeda ei thalu: canys yr ARGLWYDD dy DDUW gan ofyn a’i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot.