Actau 14:21-22 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 14:21-22 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Buon nhw’n cyhoeddi’r newyddion da yno, a daeth nifer fawr o bobl yn ddisgyblion i Iesu y Meseia. Ar ôl hynny dyma nhw’n mynd yn ôl i Lystra, Iconium ac Antiochia Pisidia. Dyma nhw’n cryfhau ffydd y disgyblion a’u hannog i aros yn ffyddlon. “Rhaid gadael i Dduw deyrnasu yn ein bywydau i ni allu wynebu’r holl drafferthion,” medden nhw.
Actau 14:21-22 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Buont yn cyhoeddi'r newydd da i'r ddinas honno, ac wedi gwneud disgyblion lawer, dychwelsant i Lystra ac i Iconium ac i Antiochia, a chadarnhau eneidiau'r disgyblion a'u hannog i lynu wrth y ffydd, gan ddweud, “Trwy lawer o gyfyngderau yr ydym i fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
Actau 14:21-22 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt bregethu’r efengyl i’r ddinas honno, ac ennill llawer o ddisgyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia, Gan gadarnhau eneidiau’r disgyblion, a’u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.