Actau 10:1-11
Actau 10:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd dyn o’r enw Cornelius yn byw yn Cesarea, oedd yn swyddog milwrol yn y Gatrawd Eidalaidd. Roedd e a’i deulu yn bobl grefyddol a duwiol; roedd yn rhoi’n hael i’r Iddewon oedd mewn angen ac yn ddyn oedd yn gweddïo ar Dduw yn rheolaidd. Un diwrnod, tua tri o’r gloch y p’nawn, cafodd weledigaeth. Gwelodd un o angylion Duw yn dod ato ac yn galw arno, “Cornelius!” Roedd Cornelius yn syllu arno mewn dychryn. “Beth, Arglwydd?” meddai. Atebodd yr angel, “Mae dy weddïau a’th roddion i’r tlodion wedi cael eu derbyn fel offrwm gan Dduw. Anfon ddynion i Jopa i nôl dyn o’r enw Simon Pedr. Mae’n aros yn nhŷ Simon y gweithiwr lledr ar lan y môr.” Pan aeth yr angel i ffwrdd, dyma Cornelius yn galw dau o’i weision a milwr duwiol oedd yn un o’i warchodwyr personol. Dwedodd wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd, a’u hanfon i Jopa. Tua chanol dydd y diwrnod wedyn pan oedd gweision Cornelius bron â chyrraedd Jopa, roedd Pedr wedi mynd i fyny i ben y to i weddïo. Dechreuodd deimlo ei fod eisiau bwyd. Tra oedd cinio yn cael ei baratoi cafodd weledigaeth. Gwelodd yr awyr yn agor a rhywbeth tebyg i gynfas fawr yn cael ei gollwng i lawr i’r ddaear wrth ei phedair cornel.
Actau 10:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd rhyw ŵr yng Nghesarea o'r enw Cornelius, canwriad o'r fintai Italaidd, fel y gelwid hi; gŵr defosiynol ydoedd, yn ofni Duw, ef a'i holl deulu. Byddai'n rhoi elusennau lawer i'r bobl Iddewig, ac yn gweddïo ar Dduw yn gyson. Tua thri o'r gloch y prynhawn, gwelodd yn eglur mewn gweledigaeth angel Duw yn dod i mewn ato ac yn dweud wrtho, “Cornelius.” Syllodd yntau arno a brawychodd, ac meddai, “Beth sydd, f'arglwydd?” Dywedodd yr angel wrtho, “Y mae dy weddïau a'th elusennau wedi esgyn yn offrwm coffa gerbron Duw. Ac yn awr anfon ddynion i Jopa i gyrchu dyn o'r enw Simon, a gyfenwir Pedr. Y mae hwn yn lletya gyda rhyw farcer o'r enw Simon, sydd â'i dŷ wrth y môr.” Wedi i'r angel oedd yn llefaru wrtho ymadael, galwodd ddau o'r gweision tŷ a milwr defosiynol, un o'i weision agos, ac adroddodd y cwbl wrthynt a'u hanfon i Jopa. Trannoeth, pan oedd y rhain ar eu taith ac yn agosáu at y ddinas, aeth Pedr i fyny ar y to i weddïo, tua chanol dydd. Daeth chwant bwyd arno ac eisiau cael pryd; a thra oeddent yn ei baratoi, aeth i lesmair. Gwelodd y nef yn agored, a rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng wrth bedair congl tua'r ddaear.
Actau 10:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd; Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd â’i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i’r bobl, ac yn gweddïo Duw yn wastadol. Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius. Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a’th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw. Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: Y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer; tŷ’r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur. A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef: Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a’u hanfonodd hwynt i Jopa. A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, Pedr a aeth i fyny ar y tŷ i weddïo, ynghylch y chweched awr. Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwenychai gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno lewyg: Ac efe a welai y nef yn agored, a rhyw lestr yn disgyn arno, fel llenlliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a’i gollwng i waered hyd y ddaear