1 Ioan 1:7-10
1 Ioan 1:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond os ydyn ni’n byw yn y golau, fel mae Duw yn y golau, dŷn ni’n perthyn i’n gilydd, ac mae gwaed Iesu ei Fab yn ein glanhau ni o bob pechod. Os ydyn ni’n honni ein bod ni heb bechod, dŷn ni’n twyllo’n hunain a dydy’r gwir ddim ynon ni. Ond os gwnawn ni gyffesu ein pechodau, bydd e’n maddau i ni am ein pechodau ac yn ein glanhau ni oddi wrth bopeth drwg, am ei fod e’n cadw ei air ac yn gwneud beth sy’n iawn. Os ydyn ni’n honni ein bod ni erioed wedi pechu, dŷn ni’n gwneud Duw yn gelwyddog, ac mae’n amlwg bod ei neges e’n cael dim lle yn ein bywydau ni.
1 Ioan 1:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â'n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod. Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, ac nid yw'r gwirionedd ynom. Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn, ac felly fe faddeua inni ein pechodau, a'n glanhau o bob anghyfiawnder. Os dywedwn nad ydym wedi pechu, yr ydym yn ei wneud ef yn gelwyddog, ac nid yw ei air ef ynom ni.
1 Ioan 1:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â’n gilydd, a gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod. Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder. Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.